Ar 6 Mai, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn agor dwy gronfa Loteri Genedlaethol newydd:

  • Cronfa'r Loteri am y Celfyddydau, Iechyd a Lles
  • Creu: ariannu datblygu a chreu profiadau celfyddydol o safon

Nod yr un gyntaf yw cefnogi partneriaethau ar draws y celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i gynnal prosiectau creadigol o safon i ddod â buddion iechyd a lles i bobl Cymru. Mae'n agored i geisiadau partneriaeth gan sefydliadau. Bydd y gronfa'n agor ar 6 Mai 2021 ac mae dyddiadau cau penodol i’r gronfa.

Mae’r ail yn ariannu'r gwaith o ddatblygu a chreu profiadau celfyddydol o safon i helpu unigolion a sefydliadau creadigol i ymgysylltu â'r cyhoedd. Ei nod yw helpu unigolion a sefydliadau i greu a chyflwyno eu gwaith gorau gan gynnwys meithrin syniadau newydd,  cefnogi unigolion neu sefydliadau i ymddatblygu drwy hyfforddiant, twf busnes a phrosesau newid.

Bydd y cronfeydd yn cyflawni blaenoriaethau ein cynllun corfforaethol,
Er Budd Pawb o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, y Gymraeg, meithrin talent greadigol a chefnogi gwytnwch y sector.

Gallwch ymgeisio neu gael gwybod rhagor am yr arian, gan gynnwys am sut i gofrestru i’n porth grantiau yma.

Gall gymryd hyd at 5 diwrnod i gofrestru ar gyfer cyfrif newydd.

Diwedd                                                                                                   5 Mai 2021