Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer ei gŵyl rad ac am ddim er mwyn dychmygu dyfodol ein celfyddydau – Dychmygu’r Dyfodol: trafod celfyddydau Cymru (20-22 Medi).

Dros dridiau, gwahoddwn gyfranogwyr i drafod argyfwng yr hinsawdd, celfyddydau dwyieithog, cydraddoldeb ac amrywiaeth a thrawsnewid y celfyddydau yn wyneb problemau byd-eang ymhlith pynciau eraill. Bydd yr ŵyl ar-lein yn cynnwys trafodaethau agored, teithiau tywys myfyriol a phethau eraill.

Mae’n agored i bawb – artistiaid, cynhyrchwyr, cynulleidfaoedd, trefnwyr. Dewch at ein gilydd i lywio dyfodol ein celfyddydau. Dewch i rai digwyddiadau neu i bob un.

Anogwn bobl i ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnodau #DyfodolCelfCymru neu #FutureArtsWales.

Mae’n ŵyl rithiol, ddwyieithog a chynhwysol. Bydd cyfieithu i’r Arwyddeg a chyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Os oes gennych anghenion hygyrchedd ychwanegol, ffoniwch 03301 242733 (ar gyfradd leol) neu anfonwch neges destun at 07797 800504 (ar gyfradd arferol i negeseuon testun).

DIWRNOD 1 20.09.2022

Darlleniad: Dychmygu’n Dyfodol - 12:00
Hanan Issa, Iestyn Tyne


'Ni yw diwylliant Cymru' - 12:10
Darren Chetty


Beth sy’n cyfrif fel diwylliant? - 14:00
Lis McLean, Dr Errol Francis, Abu-Bakr Madden Al-Shabbaz, Rhiannon White


Iaith, celf a diwylliant - 15:30
Esyllt Lewis (gwesteiwr / host), Meinir Mathias, Grug Muse, Durre Shahwar


Gwybod dy le - 17:00
Llio Maddocks (gwesteiwr), Dilwyn Llwyd, Loren Henry, Alan Lane, Karen Mckinnon, Jo Marsh

 

DIWRNOD 2 21.09.2022


Codi pontydd rhwng y celfyddydau a’r amgylchedd - 09:00
Sarah Hopkins a Rhodri Thomas (cyd-westeiwyr)


Maniffesto: Cymraeg yn y canol - 10:00
Esyllt Lewis, Rufus Mufasa


Cyfiawnder hinsawdd: cymrwch e’n bersonol - 14:00
Marc Rees, Cheryl Beer, Vikram Iyengar, Ffion Campbell-Davies, Alice Briggs (cadeirydd)

DIWRNOD 3 22.09.2022


Perfformiadau: 'Fow' a 'Not Sorry' - 09:00
Steph Back

Cyfiawnder hinsawdd a’r celfyddydau - 10:00
Owen Griffiths a Muneera Pilgrim (cyd-guraduron a siaradwyr)


Ydyn ni yna eto? - 15:00
Gwenno Edwards (gwesteiwr), Lisa Heledd Jones, Miguela.Gonzalez, Jain Boon, Eleanor Davies
 

Llais Ieuenctid: beth yr hoffem ei gael o’r celfyddydau? - 16:45
Ymunwch â ni am drafodaeth banel am Gelfyddydau Ieuenctid.


Sesiwn i grynhoi a chau’r digwyddiad - 17:45
Michael Elliott, Einir Siôn, Andrew Ogun, Rufus Mufasa