Mae mwy o fanylion wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer Gŵyl Tawe eleni, sy’n dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar ddydd Sadwrn y 7fed o Fehefin.
Yn ymuno gyda Gruff Rhys mae’r gwesteion arbennig Adwaith, a fydd yn chwarae set headline llawn cyn Gruff ar lwyfan Gardd yr Amgueddfa. Mae Adwaith yn dychwelyd i’r ŵyl wedi rhyddhau eu trydydd albwm hir-ddisgwyliedig, Solas. Yn golygu "goleuedigaeth" mewn Celteg, mae Solas yn garreg filltir arwyddocaol yn nhaith y band. Wedi'i recordio ar draws lleoliadau amrywiol - gan gynnwys ynysoedd yr Alban, Lisbon, a stiwdios amrywiol yng Nghymru - mae Solas yn adlewyrchu twf ac esblygiad Adwaith fel artistiaid. Yn gorlifo â rhamant a hud a lledrith, mae'r albwm dwbl 23-trac yn cwblhau trioleg sy'n dilyn eu trawsnewidiad o bobl ifanc yn eu harddegau i fenywod grymus, gan archwilio themâu o hunan-ddarganfod, dianc a gwytnwch.
Hefyd yn ymuno gyda’r rhaglen gerddorol ar draws dau brif lwyfan yr ŵyl mae EADYTH, Los Blancos, Mari Mathias, Mali Hâf, a Pys Melyn. Mae yna mwy o gerddoriaeth dal i'w chyhoeddi, gan gynnwys parti cloi arbennig yn lleoliad y Bunkhouse ar nos Sul yr 8fed o Fehefin.
Fel rhan o brosiect newydd eleni, bydd y cerddor ifanc, cyffrous o Abertawe - Manon - yn agor llwyfan Gardd yr Amgueddfa. Yn aelod o’r prosiect datblygu cerddorol ar gyfer pobl ifanc 15 i 21, Future Blood, mae Manon hefyd yn aelod rheolaidd o glwb cerddoriaeth Tŷ Tawe. Er bod hi ond wedi dechrau ysgrifennu caneuon ei hunan yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae hi yn barod wedi adeiladu dilyniant sylweddol gyda pherfformiadau cyson mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Abertawe. Yn arwain at yr ŵyl eleni, bydd Manon yn rhyddhau ei sengl gyntaf - ‘Amrywliw’ - yn ogystal â fideo wedi ei recordio trwy Gronfa Fideos Cerddorol Lŵp x PYST.
Yn ogystal â’r rhaglen cerddoriaeth fyw, bydd perfformiadau a gweithdai theatr rhyngweithiol gan Mewn Cymeriad, Theatr na nÓg, a Familia de la Noche. Bydd llwyfan Galeri'r Warws yn arddangos amrywiaeth o berfformiadau gan ysgolion lleol, tra bydd yr artist Rhys Padarn yn cynnig gweithdai a fydd yn galluogi mynychwyr i greu gwaith celf arbennig ar thema’r ŵyl yn ei arddull Orielodl eiconig. Bydd partneriaid Menter Iaith Abertawe hefyd yn cynnig amrywiaeth ychwanegol o stondinau a gweithgareddau yng nghyntedd yr amgueddfa.
Mae prosiect newydd arall ar gyfer yr ŵyl eleni wedi gweld galwad agored ar gyfer cyfarwyddwyr newydd i recordio cyfres o sesiynau byw mewn lleoliadau gwahanol ar draws Abertawe. Bydd y sesiynau yma yn cael eu rhyddhau trwy sianel AM Cymru Menter Iaith Abertawe wrth arwain at yr ŵyl, yn ogystal â chael eu harddangos ar y sgrin fawr ar y diwrnod. Hefyd yn cael ei arddangos bydd perfformiad arbennig gan grŵp o bobl ifanc wedi ei ddatblygu gan aelodau clwb clocsio wythnos a sesiwn werin misol Menter Iaith Abertawe, wedi ei arwain gan y cerddorion Angharad Jenkins a Rhodri Davies.
Mae’r ŵyl yn rhad ac am ddim i fynychu ar system gyntaf i’r felin, gyda’r amgueddfa yn agor am 10yb a’r adloniant yn rhedeg hyd at 9yh.
Cyflwynir Gŵyl Tawe 2025 gan Menter Iaith Abertawe mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, gyda chefnogaeth bellach gan Gyngor Abertawe, y Bunkhouse Abertawe, Coleg Gŵyr Abertawe, y Taliesin, a chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.