Cronfa Ewch i Weld

“Mae’r profiadau yn ‘creu sbarc’ yn ôl yn yr ystafell ddosbarth, gan greu cyfleoedd dysgu a chodi dyheadau.”

Mae Ewch i Weld yn cynnig cyllid ar gyfer ymweliadau â phrofiadau celfyddydol a diwylliannol o safon. Gall ysgolion wneud cais am grantiau bach o hyd at £1,000 i ariannu ymweliadau unigol â digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol mewn lleoliadau ledled Cymru. Gallai profiadau Ewch i Weld gynnwys ymweliadau â pherfformiadau ac arddangosfeydd, neu ymweliadau i brofi gweithwyr proffesiynol yn y celfyddydau i ddatblygu a chreu eu gwaith.

Cronfa Ewch i Greu

“Cafodd Arferion creadigol y meddwl eu hymgorffori yn y gweithgareddau yn ôl eu natur, gydag agweddau at ddysgu ac ymgysylltu yn amlwg wedi datblygu”

Crëwyd cronfa Ewch i Greu er mwyn cynnig cyfle i athrawon weithio gydag Ymarferydd Creadigol i arbrofi gydag addysgeg greadigol ac archwilio dulliau newydd a ffres o ddysgu.
Gall ysgolion wneud cais am grant o £1,000 i weithio gydag ymarferydd creadigol am bedwar diwrnod er mwyn iddynt gael eu cefnogi i fedru darparu dulliau creadigol o ymwneud â dysgwyr.

Sut i wneud cais

Bydd angen i’r holl ysgolion sy’n bwriadu gwneud cais gofrestru ar ein parth ar-lein cyn llenwi unrhyw ffurflenni cais. Ar ôl i chi gofrestru ar y porth ar-lein byddwch yn gallu cael mynediad i'r ffurflenni cais. Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru'ch ysgol ar ein porth o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn eich bod yn dymuno cychwyn eich cais.
Os oes angen cymorth pellach arnoch i gael mynediad i'r porth ar-lein gallwch gysylltu â ni drwy dysgu.creadigol@celf.cymru 

Cliciwch yma i dderbyn yr holl wybodaeth ynglyn â'r ddwy gronfa.