Oherwydd galw mawr byddwn yn cynnal sesiwn ychwanegol ar 16 Tachwedd am 17.45 (ar sail ‘cyntaf i’r felin’). Er mwyn archebu eich lle, cliciwch yma.

-

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am bobl angerddol i gefnogi celfyddydau Cymru ac arwain gwaith Cyngor Celfyddydau Cymru drwy ymuno â’i Gyngor o ymddiriedolwyr.

Er mwyn cynorthwyo gyda’r broses hon, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi trefnu sesiynau galw-heibio dros Zoom gyda aelodau cyfredol y Cyngor. Bydd y sesiynau yn caniatáu i’r rhai hynny sy’n meddwl cyflwyno cais i gael sgwrs unigol am 10 munud, er mwyn holi unrhyw gwestiynau sydd ganddynt, ac i gael esboniad pellach ynghylch natur y rôl.

Cynhelir y sesiwn nesaf ar Tachwedd 11 – ac oherwydd galw mawr byddwn yn cynnal sesiwn ychwanegol ar 16 Tachwedd am 17.45 (ar sail ‘cyntaf i’r felin’). Er mwyn archebu eich lle, cliciwch yma.

Mae’n bwysig nodi mai pwrpas y sesiwn yw rhoi cyfle i ymgeiswyr posib ddod i wybod rhagor ynghylch natur swyddogaeth bod yn aelod o’r Cyngor trwy siarad ag aelodau cyfredol. Ni fydd cyfle yn ystod y sesiwn  i drafod swyddogaeth ehangach Cyngor Celfyddydau Cymru, ei weithredoedd ynteu ei strategaeth.

Mae'r Llywodraeth a’r Cyngor yn credu y dylai pawb gael y cyfle i brofi'r celfyddydau, ac y dylai cyrff cyhoeddus gynrychioli gwahanol gymunedau fel y gallant ddeall pobl Cymru a gwneud penderfyniadau gwell. Rydym ni’n croesawu ceisiadau'n arbennig gan bobl o grwpiau sydd â chynrychiolaeth annigonol sy’n gynnwys, er enghraifft:

  • Pobl o wahanol gefndiroedd ethnig gan gynnwys pobl dduon a phobl liw
  • Siaradwyr Cymraeg
  • Menywod
  • Pobl dan 30 oed
  • Pobl anabl
  • Lesbiaid, hoywon, deurywolion
  • Pobl drawsryweddol
  • Pobl o gymunedau gyda lefelau uchel o anfantais economaidd ynteu dlodi

Mae rhagor o fanylion ar gael ar dudalen Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

Bydd  tymor bob ymddiriedolwr yn parhau am dair blynedd. Bydd gofyn I bob ymddiriedolwr dreulio diwrnod a hanner y mis ar waith y Cyngor - fel mynd i gyfarfodydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae bod yn ymddiriedolwr yn ddi-dâl ond bydd arian i dalu am gost teithio, prydau bwyd ac aros dros nos.

Gwyliwch neu gwrandewch ar Gwennan Mair ac Andrew Miller yn sôn am fod yn aelodau presennol o’r Cyngor.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 23 Tachwedd 2020.