Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Gydgysylltydd Rhwydwaith (Prosiect Going Places)  i ymuno â'n tîm.  Byddwch yn gweithio yn CofGâr, y Gwasanaeth Amgueddfeydd a'r Celfyddydau, sydd wedi'i leoli yn Amgueddfa Sir Gâr i gefnogi'r rhwydwaith Cymunedau Gwneud, fel rhan o Going Places.  Mae Going Places yn un o raglenni'r Gronfa Gelf sydd wedi cael ei rhoi ar waith gyda chefnogaeth hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Julia Rausing. Mae Amgueddfa Sir Gâr yn gweithio gyda'r Irish Linen Centre ac Amgueddfa Lisburn a High Life Highland fel rhan o'r rhwydwaith Cymunedau Gwneud i gyflwyno dwy arddangosfa deithiol a gweithgareddau ymgysylltu cymunedol dros gyfnod o 5 mlynedd.

Y Rôl      

Bydd y 'Cydgysylltydd Rhwydwaith' yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen a goruchwylio gweithgareddau rhwydwaith, adborth, rheoli a throsglwyddo adnoddau ar lefel rhwydwaith, ac yn ymgysylltu, yn amrywio ac yn datblygu cysylltiadau rhwng casgliadau treftadaeth a chymunedau.

Swydd ran amser yw hon yn gweithio 12 awr yr wythnos cyfwerth ag amser llawn 0.32 dros 2 ddiwrnod yn ystod yr wythnos yn Amgueddfa Sir Gâr. Mae hon yn rôl hybrid, bydd disgwyl i chi gwrdd wyneb yn wyneb yn rheolaidd â'ch rheolwr llinell yn eich prif weithle, ond gellir treulio gweddill eich oriau gwaith naill ai yn gweithio gartref neu mewn gweithle arall gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.
 

Dyddiad cau: 05/11/2025