Mae côr cymysg newydd sbon, Aloud Voices, yn galw am aelodau newydd o bob gallu a math o lais rhwng 9 a 25 oed ledled De Cymru.
Wedi'i hwyluso gan The Aloud Charity, nod Aloud Voices yw ysbrydoli a datblygu talent lleisiol mewn amgylchedd hwyliog, cefnogol — trwy ymarferion wythnosol mewn gwahanol leoliadau, ychydig i'r gogledd o Gaerdydd.
Mae Aloud Voices yn cynnwys tri chôr:
- Aloud Junior Voices, ar gyfer plant ym mlynyddoedd ysgol 5 a 6 (Only Kids Aloud gynt);
- Aloud Intermediate Voices, i bobl ifanc ym mlynyddoedd ysgol 7 i 9;
- ac Aloud Voices, ar gyfer y rhai ym mlwyddyn ysgol 10 hyd at 25 oed.
Mae'r grwpiau Iau a Canolradd yn cael eu rhedeg gan arweinwyr côr llawrydd proffesiynol, gyda'r grŵp hŷn yn cael ei arwain gan Craig Yates — Cyfarwyddwr Creadigol Aloud ac aelod o Only Men Aloud, enillwyr Gwobr Brit Clasurol.
Bydd yr aelodau'n elwa o gyfleoedd i berfformio’n lleol, yn rhyngwladol ac ar deledu, gan gymryd rhan mewn cystadlaethau a theithiau rhyngwladol, rhaglenni cyfnewid diwylliannol, a chanu mewn cyngherddau ledled y DU a’r byd — gan gynyddu hyder, meithrin ymdeimlad o gymuned a datblygu sgiliau bywyd yn y broses.
Mae tanysgrifiadau a bwrsariaethau â chymhorthdal hefyd ar gael i deuluoedd incwm isel — ynghyd â disgownt brodyr a chwiorydd i'r rhai sydd â nifer o blant sydd am gymryd rhan.
Dywedodd Carys Wynne Morgan, Prif Swyddog Gweithredol Aloud:
"Rydym wedi gweld effaith gadarnhaol ein gwaith ar bobl ifanc dros y 15 mlynedd diwethaf. Yn yr hinsawdd ddiwylliannol sydd ohoni, rydym yn teimlo ei bod yn bwysicach nag erioed i bobl ifanc gael mynediad at gyfleoedd creadigol fel y rhai y mae Aloud yn eu cynnig.
"Yma yn Aloud, mae popeth â wnawn yn ymwneud â dysgu, perfformio a magu hyder — gyda sesiynau blasu Aloud Voices am ddim ar gael i roi blas i bobl ifanc o'r hyn sy'n gwneud ein cymuned mor arbennig.
“Aloud Junior Voices yw ein henw newydd ar gyfer Only Kids Aloud. Rydyn ni'n gobeithio parhau i ddarparu profiadau anhygoel, fel canu yn Disneyland Paris ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond mewn ffordd sy'n fwy cysylltiedig â'n gweithgareddau eraill. Mae hefyd yn gyfle perffaith i gyn-aelodau Only Girls Aloud barhau â'u canu fel rhan o deulu Aloud."
Ychwanegodd rhiant aelod o Only Kids Aloud o 2024:
"Cafodd fy merch brofiad hollol wych. Mae'r holl staff yn Aloud wedi bod yn arbennig gyda'r plant — gan eu hannog i fod y gorau y gallant fod.
"Mae fy merch wedi magu hyder, sgiliau ac wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd. Mae hi wedi cael cyfleoedd anghredadwy na fyddai hi wedi eu cael fel arall — ac rwy'n gwybod ei bod wedi gwneud atgofion fydd yn para am oes."
I gael gwybod mwy am Aloud Voices, ac i gofrestru diddordeb neu gofrestru ar gyfer sesiwn blasu am ddim, ewch i: bit.ly/aloudvoicessignup.
Mae elusen Aloud hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi gyda phopeth o smwddio crysau cefn llwyfan i ddosbarthu taflenni a phosteri. I gofrestru eich diddordeb, ewch i: Cysylltu â ni - Elusen Aloud.