Yn agor Nos Iau yma, y pedwerydd perfformiad yn The Shape of Things to Come (tymor blynyddol Volcano o berfformiadau gwreiddiol byr gan wneuthurwyr theatr llawrydd) yw Never Fully Here gan Moana Doll.
Mae'n sioe chwareus am gael eich dal yn y canol - ddim yn wirioneddol estron ond byth yn hollol Brydeinig - yn enwedig ar ôl Brexit.
Gweld Moana yn sôn am y darn yma.
Mae dylanwadau Moana yn cynnwys Thomas Ostermeier a Falk Richter, sy'n cyfuno dawns a theatr draddodiadol, â'r cyfarwyddwyr ffilm Jean-Luc Godard ac Anders Thomas Jensen, a chwmnïau fel Complicité. Mae hi hefyd yn angerddol am Tanztheater a gwaith arloesol Pina Bausch.
Mae hi'n angerddol am gyfnewid diwylliannol ac ieithyddol mewn perfformiadau, gan gredu ei bod yn hanfodol i'r celfyddydau ymchwilio a chymysgu diwylliannau. Ei huchelgais yw datblygu gwaith sy'n croesi ffiniau'n rhydd, gan gyfrannu'n ystyrlon at dirwedd artistig y DU.
Yn rhaglen Shape of Things eleni, mae pob artist yn creu perfformiad ar gyfer set o'r enw Yr Ystafell. Mae'r Ystafell wedi cael ei dylunio a'i hadeiladu gan Bourdon Brindille.
Mae'r rhaglen hyd yn hyn yn cynnwys perfformiadau gan Leon Clowes, Arnold Matsena a Ryan Samuel Davies. Y perfformiad olaf yn rhaglen eleni fydd Juiced to Death gan Joanna Simpkins, 12 - 14 Mehefin.