Mae Deborah Light yn ddawnswraig a Choreograffydd amlwg o Gymru.  Ar ôl dros ddegawd o roi’r flaenoriaeth i’w theulu ifanc a chanolbwyntio ar waith a pherfformio cydweithredol mae yn awr yn dychwelyd at ei hymarfer coreograffig annibynnol. Fel artist hŷn, benywaidd mae llais coreograffig Deborah yn un pwysig: mae safbwynt gwrth-batriarchaidd yn rhedeg trwy ei gwaith mentrus a phersonol. Yn 2023 mae Deborah wedi bod yn paratoi’r tir ar gyfer gwaith uchelgeisiol a thrwyadl dan arweiniad merch sy’n rhoi blaenoriaeth i brofiad y gynulleidfa. 

 

Mae rownd sylweddol o Ymchwil a Datblygu yn 2023 a grant datblygu busnes yn 2023/24, y ddau gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, wedi helpu Deborah i ailfywiogi ei hymarfer, archwilio gwaith cydweithredol cyfoethog gyda thimau cynhyrchu, defnyddio ymgynghorwyr ac artistiaid dawns ac i ddatblygu partneriaethau ffyniannus gyda sefydliadau celfyddydol a heb fod yn rhai celfyddydol ar draws Cymru a thu hwnt. 

 

“Rwy’n gyffrous fy mod yn ailddatblygu fy ymarfer annibynnol a bod gennyf yn awr 3 darn y gellid eu datblygu ymhellach. Mae fy llais fel menyw greadigol hŷn yn teimlo’n angenrheidiol mewn sector lle mae’r gweithlu yn bennaf yn ifanc/benywaidd ond mae’r coreograffwyr amlwg yn bennaf yn wrywaidd. Rwy’n angerddol am gefnogi a chryfhau’r dirwedd ddawns yng Nghymru trwy fy ngwaith, mae’n hanfodol bod yn creu cyfleoedd i artistiaid yn y sector a chefnogi lleoliadau i ymgysylltu gyda’u cyhoedd a llunio cynulleidfaoedd ar gyfer dawns.

 

Gellir gweld gwybodaeth lawn am ymarfer artistig Deborah a’r gwaith sydd ganddi ar y gweill yn ei phecyn gwybodaeth trwy'r ddolen isod

 

Nod Deborah yw mynd â’i gwaith unigol ‘An Autopsy of a Mother a Bear and a Fridge’ ar daith yr hydref hwn ac mae ganddi ddiddordeb mewn llunio partneriaethau a chysylltiadau pellach gyda lleoliadau, cynulleidfaoedd a chymunedau. Cysylltwch â’i chynhyrchydd kama.roberts.producer@gmail.com i drafod ymhellach neu ymunwch â’i rhestr bostio http://eepurl.com/iCH9DU am ragor o ddiweddariadau.

 

Mae Deborah yn artist dawns annibynnol, coreograffydd a chyfarwyddwr symud profiadol. Mae hefyd yn cyd-gyfarwyddo Light/Ladd/Emberton. Dangoswyd ei gwaith, ymhlith mannau eraill yn The Place, British Dance Edition, Arddangosfa’r Cyngor Prydeinig yng Nghaeredin ac mae wedi cael ei chomisiynu gan Dance Passion y BBC. Efallai y byddwch yn gyfarwydd â’i gwaith ‘HIDE’, ‘Caitlin’ ‘amser/time’ neu ei pherfformiad yn “Qwerin”, Osian Meiliers.