Cyflwyniad

Mae Gwasanaeth Celfyddydau a Diwylliannol Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi bod ei raglen arloesol Artist mewn Gwasanaeth yn dychwelyd.

Wedi'i gynllunio mewn ymgynghoriad â The Experience Business yn rhan o Raglen Cynllunio Gwerth i'r Cyhoedd, mae'r rôl yma'n rhoi cyfle i artist lleol ddatblygu ei ymarfer creadigol trwy ymgysylltu â chymunedau yn Rhondda Cynon Taf.

Yn bwysicach fyth, dydyn ni ddim yn disgwyl i'r gweithgarwch arwain at gynhyrchiad o waith artistig gwreiddiol. Hefyd, does gyda ni ddim diddordeb mewn cyfres o weithdai rhyngweithiol. Yn lle hynny, rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n chwilfrydig ynghylch y manteision i'r ddwy ochr sy'n deillio o'r cyfnewid rhwng yr artist a'r trigolion.

Mae'r ail rownd yma (2025-26) yn adeiladu ar lwyddiant Harriet Fleuriot a Rhys Slade-Jones, Artistiaid mewn Gwasanaeth cyntaf a gafodd eu penodi ym mis Hydref 2024 a gwasanaethodd tan fis Mai 2025. 

O ganlyniad i'w gwaith, mae gyda ni well dealltwriaeth o beth yw'r rôl a'i datblygiad posibl yn y dyfodol. Wedi dweud hynny, mae hanfodion y rhaglen yn parhau heb eu newid:

  • Contract penagored heb unrhyw ofyniad am 'gynnyrch'.
  • Ymrwymiad gwirioneddol i ymgysylltu â phobl a lleoedd Rhondda Cynon Taf.
  • Cyd-fynd â gweledigaeth a gwerthoedd Gwasanaeth Celfyddydau Rhondda Cynon Taf (gweler isod)
  • Cred yn eich proses artistig eich hun 

Fel gyda'r rownd flaenorol, dim ond i artistiaid sydd wedi'u lleoli yn Rhondda Cynon Taf neu'r rhai sydd â pherthynas brofedig â'r ardal y mae'r cyfle yma ar gael. Rydyn ni'n effro i'r ffaith bod y polisi yma yn eithrio llawer o artistiaid ac rydyn ni'n deall pa mor rhwystredig y mae modd i hynny fod. Serch hynny, a ninnau'n wasanaeth celfyddydau Awdurdod Lleol, mae gyda ni gyfrifoldeb uniongyrchol i'n trigolion ein hunain a rhaid i hynny gael blaenoriaeth bob amser. 

Mae ein diffiniad o 'Artist' yn eang, ac rydyn ni'n agored i glywed gan y rhai sy'n gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth neu faes, ac ar unrhyw lefel o brofiad. 

Mae canfyddiadau o'r cynllun peilot (2024-25) yn awgrymu rhai meysydd allweddol y gallai rowndiau'r dyfodol eu harchwilio ymhellach. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cefnogaeth i'r rhwydwaith teithio lleol ledled Rhondda Cynon Taf. Ymgynghori â lleoliadau ar eu hamcanion artistig, gwella mynediad a chryfhau cyfathrebu ledled y sector.
  • Cynghori ar, ac eirioli dros, ddatblygiad gwaith gwreiddiol yn y Gymraeg.
  • Dyfnhau'r cysylltiad rhwng yr awdurdod lleol a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. 

Wedi dweud hynny, nid yw'r broses ei hun yn rhagnodol ac mae'n parhau i fod yn ymatebol i anghenion a diddordebau'r artist penodedig. 

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau pellach am y rôl yma, e-bostiwch Reolwr Ymgysylltu â'r Celfyddydau a'r Gymuned, Jesse Briton ar jesse.briton@rctcbc.gov.uk

Cyflwyno Cais

I wneud cais, e-bostiwch gopi o'ch CV a llythyr eglurhaol byr (un ochr o bapur A4) yn egluro eich diddordeb yn y rôl i DiwydiannauCreadigol@rctcbc.gov.uk erbyn 5pm 29 Awst 2025 ynghyd â rhai dolenni neu enghreifftiau o waith blaenorol.

Mae croeso i chi wneud cais yn y Gymraeg neu Saesneg. Hoffech chi gyflwyno cais dros fideo neu ar ffurf sain? Cysylltwch â ni ymlaen llaw.

Bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad wythnos yn dechrau 15 Medi  

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi yn Noson Sbrigiau (Scratch Night) Rhondda Cynon Taf ddydd Mercher 1 Hydref 2025

Achlysur Briffio

Bydd achlysur ar-lein yn cael ei gynnal 22/08/2025 am 1200 ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am y rhaglen. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyniad ar y rôl a sesiwn Holi ac Ateb gyda deiliaid blaenorol. 

Os hoffech chi fod yn bresennol yn yr achlysur, e-bostiwch DiwydiannauCreadigol@rctcbc.gov.uk am y ddolen i ymuno.

Manylion y Contract 

Ffi: £15,000

Cyllideb deunyddiau: £3,000

Dyddiadau: 1 Hydref 2025 - 30 Mehefin 2026 (9 mis)

Math o gontract: Llawrydd

Lleoliad: Bydd y swydd wedi'i lleoli mewn lleoliadau Theatrau Rhondda Cynon Taf neu adeilad awdurdod lleol neu leoliad cymunedol i'w gytuno'n gydfuddiannol gyda'r artist. 

Cludiant: Mae disgwyl i'r artist fod â gwreiddyn yn Rhondda Cynon Taf a bod â mynediad at ei drafnidiaeth ei hun neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. 

 

Ein Gweledigaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf 

"Rhondda Cynon Taf llewyrchus lle mae gyda'r celfyddydau'r grym i wneud i ni deimlo'n hapus, yn hyderus a balch o'n cartref.

 

Ein gwerthoedd

Creadigedd                     meithrin talent creadigol; galluogi sbarduno creadigol; ysbrydoli mynegiant creadigol; darganfod talent cudd; darparu profiadau newydd; heriau; cymryd risgiau

Ymdeimlad o berthyn  dathlu lle; diwygio persbectif; gwrando a rhannu lleisiau; cydnabod lle Rhondda Cynon Taf heddiw; datblygu balchder mewn lle a datblygu uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Calon                                meddwl-agored; peidio barnu; hygyrch; croesawgar i bawb; gwrando; ymdeimlad o letygarwch; tegwch

Cysylltiedigedd             asiant sifil a dangosydd newid; cryfhau cymunedau; cynnwys pobl; cyd-greu; cysylltu pobl; haelioni; rhwydweithiau; partneriaethau

Llawenydd                      darparu adloniant; lle i fynegi a dianc; hwyl; dathlu
 

Dyddiad cau: 29/08/2025