Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli cryfder y celfyddydau Cymreig ar lwyfan cenedlaethol wrth i aelodau’r cwmni berfformio yng ngŵyl fawreddog Schrittmacher.
Mae’r ŵyl hon bellach yn ei nawfed flwyddyn ar hugain. Mae’n para mis cyfan, caiff ei chynnal mewn tair o ddinasoedd yn yr Almaen ac mae’n gwahodd cynulleidfaoedd brwd i fwynhau dawns gyfoes o bob rhan o’r byd. Eleni, bydd cwmnïau o Seland Newydd, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Tsieina, Unol Daleithiau America, y DU, Senegal, yr Almaen a Gwlad Belg yn cymryd rhan ynddi.
Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn perfformio dros bedair noson yn Fabrik Stahlbau Strang, sef un o leoliadau anhygoel yr ŵyl yn Aachen – warws dur diwydiannol sy’n dyddio i 1892 a drawsnewidir bob blwyddyn yn lleoliad dros dro yn unswydd ar gyfer yr achlysur. Bydd y lleoliad hwn yn gefndir trawiadol i breswyliad Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn yr ŵyl, lle caiff y cynulleidfaoedd eu cyfareddu gan PULSE|PWLS, a berfformiwyd i filoedd o bobl ledled Cymru a’r byd yn ystod 2023 a 2024.
Yn awr, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli’r genedl, gan arddangos y gwaith ochr yn ochr â chwmnïau dawns gyfoes o bob cwr o’r byd.
Mae Matthew William Robinson, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, wrth ei fodd y bydd un o’r perfformiadau’n cael ei gynnal ar Ddydd Gŵyl Dewi. “Anrhydedd yw cael ein gwahodd i ŵyl Schittmacher, cyfle anhygoel i arddangos sgiliau gwirioneddol ein hartistiaid,” meddai. “Mae Cymru wedi bod yn genedl o artistiaid erioed, cenedl a adeiladwyd ar ganeuon, barddoniaeth a dawns. Mae dawns yn codi uwchlaw rhwystrau ieithyddol, felly gallwn fynd â’n celfyddyd i unrhyw le yn y byd a rhannu medrusrwydd artistig Cymru mewn ffordd bwerus ac ystyrlon. Cyffrous iawn yw cael cyfle i arddangos creadigrwydd ein cenedl ar Ddydd Gŵyl Dewi.”
Mae PULSE|PWLS yn cynnwys dwy elfen, sef ‘Walts’ gan Marcos Morau, gwaith swreal a disglair sy’n gadael cynulleidfaoedd ar flaenau eu seddi; a ‘Say Something’ gan SAY Dance, sy’n myfyrio ar ddymuniad i ddawnsio er pleser pur, heb fod angen dweud unrhyw beth.
Hefyd, bydd ‘Say Something’ yn arbennig yn tynnu sylw at doreth o dalentau Cymreig, yn cynnwys dylunio gwisgoedd gan yr artist George Hampton Wale o Gymru, a thrac sain sy’n cynnwys Beattechnique / Dean Yhnell, y bît-bocsiwr o Lynebwy.
Cynhelir gŵyl Schrittmacher rhwng 29 Chwefror a 3 Mawrth. Gellir prynu tocynnau ar wefan yr ŵyl.