Rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau isod. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gan ein holl ymgeiswyr am grantiau er mwyn gwneud yn siŵr bod ein harian yn cyrraedd rhychwant eang o bobl a sefydliadau.
Yn ogystal rhaid i ni adrodd hefyd, yn ein hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol, ar y rheini y mae ein harian yn eu cyrraedd yn unol â’r ‘nodweddion a ddiogelir’ a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, er mwyn cydymffurfio â dyletswyddau penodol Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoliadau Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011).
Ni fydd unrhyw atebion y byddwch yn eu rhoi ar y ffurflen hon yn cael effaith ar ein penderfyniad o ran eich cais am grant ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion monitro yn unig. Ni fydd y ffurflen hon yn cael ei rhannu â staff a fydd yn asesu eich cais. Ni fyddwn yn ystyried bod eich cais yn gyflawn hyd nes i’r ffurflen hon wedi ei chwblhau a‘i chyflwyno.