Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, sy'n penodi aelodau'r cyngor. Maent fel arfer yn rhan o'r cyngor am dair blynedd, ond mae modd ail-benodi unigolion am gyfnod pellach o dair blynedd. 

Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru

Penodwyd Maggie Russell yn Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym mis Ebrill 2023.

Mae ganddi dros 40 mlynedd o brofiad ar bob lefel o'r celfyddydau, treftadaeth ddiwylliannol a'r diwydiannau creadigol mewn cyd-destun Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol. Mae ei gyrfa wedi bod yn gyfoethog ac amrywiol gan gynnwys theatr gorfforol arbrofol, gweithio gyda'r gymuned, cynhyrchu digwyddiadau cerddorol ar raddfa fawr, rhedeg lleoliadau a thros 15 mlynedd fel cynhyrchydd ffilm a theledu sydd wedi ennill sawl gwobr. Yn BBC Cymru roedd hi'n rhan o'r uwch dîm rheoli, yn rhedeg yr adran ddrama ac yn Bennaeth Talent. Magwyd Maggie yn Llanrhymni, Caerdydd, graddiodd o Brifysgol Warwig ac yn fwy diweddar gwnaeth hyfforddiant ôl-raddedig proffesiynol fel seicotherapydd.

Caiff ei chymell gan ei phrofiad personol o’r ffaith y gall y celfyddydau wneud gwahaniaeth i fywyd pobl a thrwy weld yn broffesiynol pa mor rymus y gall y gwahaniaeth hwnnw fod - yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.

Mae wedi ymrwymo i ehangu mynediad, meithrin talent, datblygu gwaith o'r ansawdd uchaf ac adlewyrchu diwylliant a chelfyddydau Cymru i'w holl bobl a’r tu hwnt i'w ffiniau.

Prue Thimbleby

Ers 2012 mae’n arwain Tîm y Celfyddydau a Threftadaeth ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe. Erbyn hyn mae'r tîm wedi tyfu o ddau i saith aelod o staff i gyflwyno rhaglen gelfyddydol sy’n cynnwys cyflogi artistiaid i weithio ar adeiladau, arddangosfeydd treftadaeth, prosiectau drama er lles staff a dawns i atal cwympo.

Mae wedi sefydlu rhaglen adrodd straeon digidol i gleifion a hyfforddi staff y GIG ledled Prydain. Mae wedi hwyluso llawer o straeon y cleifion i wella gofal iechyd gan gynnwys newid y broses gofnodi, gwella trin cancr a datrys cwynion. Trefnodd gynadleddau rhyngwladol, Adrodd Straeon er Iechyd, sydd bellach yn digwydd yn  rheolaidd ar draws y byd.

Cyn arwain gwaith y Celfyddydau mewn Iechyd, roedd yn artist llawrydd a rheolwr celfyddydol am 20 mlynedd a chyn hynny'n nyrs a bydwraig. Roedd yn Gyfarwyddwr Celfyddydol i un o brosiectau Olympiad Diwylliannol 2012, creodd gerfluniau helyg a datblygodd ganolfan gelfyddydol gymunedol.

Ruth Fabby MBE

Mae’n byw yng Nghaerdydd. Fel Cyfarwyddwr Celfyddydau Anabledd Cymru ers Awst 2019 mae’n arwain y sefydliad i greu Cymru greadigol a chyfartal lle mae pobl anabl a Byddar wrth wraidd y celfyddydau.

Cyn hynny, hi oedd sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig DaDaFest, un o wyliau mwyaf llwyddiannus y byd ym maes celfyddydau anabledd.

Cafodd ei hyfforddi yn y celfyddydau perfformio, lleferydd a drama yn Ysgol Theatr Lerpwl. Ers dechrau ei gyrfa mae’n gweithio yn y celfyddydau a chelfyddydau anabledd.

Mae’n ystyried hawliau anabledd yn hawliau dynol ac mae'n traethu’n angerddol ar y pwnc.

Ceri Ll Davies

Aeth i Ysgol Uwchradd Treganna, Caerdydd ac astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.

Mae ganddi brofiad o addysg gelfyddydol a defnyddio technoleg gelfyddydol yn sgil gweithio ym maes gweithredu cymdeithasol, cerddoriaeth gymunedol a dysgu creadigol drwy'r celfyddydau. Yn ei 15 mlynedd yn adran Dysgu’r BBC, cynhyrchodd gynnwys celfyddydol yn Gymraeg a Saesneg ac arweiniodd dimau ledled Prydain fel cynhyrchydd gweithredol.

Mae’n credu bod cyfranogi o’r celfyddydau yn gwella bywyd ar bob lefel.

Jacob Gough

Ganed Jacob yn Aberystwyth a dechreuodd ei yrfa yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth fel technegydd. Yn 2007 aeth i Balestina lle roedd yn gwirfoddoli gyda grŵp hawliau dynol a chriwiau ambiwlans. Daeth yn ôl i Aberystwyth am flwyddyn gan roi gorau i’w swydd a symud yn ôl i Balesteina i ymuno â'r Freedom Theatre, corff anllywodraethol yng Ngwersyll Ffoaduriaid Jenin sy'n arbenigo mewn theatr a'r cyfryngau i bobl ifanc. Yn ôl yng Nghymru sefydlodd raglen hyfforddi dechnegol i’r theatr a bu’n rheolwr cynhyrchu ar yr holl gynyrchiadau a’r teithiau tramor.

Yn 2014 enillodd radd Meistr mewn Rheoli Trychinebau. Ar ôl gweithio yn llawrydd i National Theatre Wales, aeth yn  rheolwr cynhyrchu llawn amser yno. Roedd ymhlyg wrth rai o’i sioeau mwyaf cofiadwy gan gynnwys Mametz, City of The Unexpected a The Tide Whisperer. Yno roedd yn magu ei angerdd am gynaliadwyedd a hygyrchedd gan ddatblygu systemau i wella'r ddau.

Yn 2019 aeth yn Gyfarwyddwr Cynhyrchu i Gwfrentri, Dinas Ddiwylliant, gan fynd yn Gyfarwyddwr Gweithredol ac un o’r Uwch Dîm Rheoli am y flwyddyn. Roedd yn arwain cynhyrchu’r ŵyl a’r gwaith cynaliadwyedd.

Ym mis Gorffennaf 2021 aeth yn Gyfarwyddwr Gweithredol i Collective Cymru. Llywodraeth Cymru oedd wedi creu’r  sefydliad yn fel rhan o UNBOXED. Roedd yn bartneriaeth sectorol i gynnig am gomisiynau mawr a’u cyflwyno. Roedd y cynhyrchiad GALWAD wedi digwydd dros 7 diwrnod ym Medi 2022.

Ar ddiwedd GALWAD, roedd wedi sefydlu Ymgynghoriaeth Greadigol a Chynhyrchu o'r enw Deryncoch, mewn nifer o feysydd gan gynnwys systemau gweithredol a chynaliadwyedd. Mae ei gleientiaid presennol yn cynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaethau Diwylliant Leeds a Bradford

Julie Sangani

Mae Julie yn weithiwr proffesiynol sy'n angerddol dros gynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu sgiliau arwain a rheoli, yn enwedig grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae ei swyddi presennol yn cynnwys bod yn Gynghorydd lleol ac aelod (rhannu swydd) o Gabinet Cyngor Caerdydd, sy'n gyfrifol am Iechyd y Cyhoedd, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Cheiswyr Lloches.

Mae ar fin mynd yn Rheolwr Datblygu Busnes rhan-amser yn Anabledd Dysgu Cymru, gyda'r nod o hyrwyddo integreiddio pobl ag anableddau dysgu yn ein cymdeithas. 

Dechreuodd ei thaith broffesiynol fel llywodraethwr ysgol gymunedol, gan hyrwyddo anghenion pobl ifanc. Fel menyw o liw mewn swydd sylweddol, mae wedi ymrwymo i sicrhau cynrychioli safbwyntiau amrywiol a chlywed llais pobl ifanc.

Cyn hynny, roedd yn gysylltiedig â Chware Teg ac Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru lle y creodd nifer o gyfleoedd i bobl ifanc o wahanol gefndiroedd drwy rwydweithio a chydweithio â phartneriaid.

Mae’n un o sylfaenwyr Cymdeithas Menywod Indiaidd Cymru sy’n cynorthwyo menywod Indiaidd i oresgyn rhwystrau diwylliannol drwy ddarparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol a’u cyfeirio at adnoddau hygyrch. 

Fel cynghorydd sir, mae'n annog ymgysylltu democrataidd. Mae hefyd yn Is-gadeirydd ar y cyd NWAMI sy’n hyrwyddo dealltwriaeth rhwng diwylliannau.

Mae ganddi hanes hysbys o gynnal prosiectau'n llwyddiannus, rheoli amser, a chyfranogiad â chymunedau amrywiol sy’n tanlinellu ei hymroddiad i wneud gwahaniaeth.

Sarah Boswell

Ar ôl 20 mlynedd o weithio i’r llywodraeth, i sefydliadau nid er elw ac ar fyrddau celfyddydau, mae Sarah yn dod â syniadau a chysylltiadau amhrisiadwy i'r gwaith. Mae eu hymrwymiad i ddatblygu’r celfyddydau yn ddiwyro, wedi'i seilio ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r dirwedd ddiwylliannol, economaidd a chymdeithasol-wleidyddol y mae'r Cyngor yn gweithredu ynddi.

Fel hyrwyddwr Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, bydd yn cefnogi ei hintegreiddio yn strategaeth y Cyngor gan sicrhau dyfodol cynaliadwy a theg i gelfyddydau Cymru. Mae eu swyddi blaenorol, gan gynnwys gyda Chelfyddydau Queensland, Bale Queensland a Seland Newydd Greadigol, yn dangos eu gallu i feithrin amrywiaeth, cynhwysiant a chanlyniadau economaidd drwy raglennu arloesol a chynllunio strategol.

Yn y gwaith, bydd yn cefnogi’r Cyngor i bontio bylchau lleol a rhyngwladol a meithrin twf a chydweithio yn y sector. Rydym yn hyderus yn eu gallu i gefnogi’r Cyngor a’n llywio drwy’r heriau cyfredol a hyrwyddo'r celfyddydau er budd pob un o’n cymunedau.

Jonathan Pugh

Ers pum mlynedd ar hugain mae Jonathan yn uwch-ddarlithydd theatr a'r cyfryngau yn y Drindod Dewi Sant. Yno mae wedi dyfeisio, cynhyrchu a theithio gwaith i gynulleidfaoedd. Yn ddiweddar mae wedi goruchwylio prosiectau cyfranogol a chydweithiol yn ardal Abertawe a Chaerfyrddin.

Bu sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith meintiol addysg uwch ac effaith ansoddol y celfyddydau ar draws cymdeithas yn golygu cysylltu technoleg â straeon i ddarparu llwyfan i ddatblygu lleisiau creadigol drwy addysg a hyfforddiant. 

Mae’n credu’n gryf fod ein hamgylchedd yn llywio straeon ein hartistiaid a'n cymunedau. Mae ganddo MA mewn Astudiaethau Clasurol lle cysylltodd ddigwyddiadau daearegol â mytholeg Gwlad Groeg. Mae'n gweithio o hyd ar gysylltu mytholeg a straeon anhysbys â safleoedd penodol. Mae'n frwd dros gynnwys ein gallu creadigol fel y dywed Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae’n cydnabod yr effaith fyd-eang a gaiff natur ac adnoddau naturiol Cymru a’r ysbrydoliaeth y mae iaith, hunaniaeth a lleoliad yn ei chael ar bob math o’r celfyddydau.

Mae’n gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth a'r Drindod Dewi Sant. Roedd yn aelod o fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru. Mae ganddo brofiad sylweddol ym myd addysg a chreadigrwydd i gefnogi ein straeon cenedlaethol.

Keith Murrell

Mae Keith Murrell yn ganwr, awdur, artist gweledol, troellwr recordiau, a chynhyrchydd.

Cafodd Keith ei fagu yn y Dociau yng Nghaerdydd (Trebiwt), ac mae ei waith heddiw yn barhad o’i brofiad o fyw a gweithio yn y gymuned.

Mae’n arwain Cymdeithas Gelfyddydol a Diwylliannol Trebiwt (BACA) gan gynhyrchu carnifal blynyddol yr ardal a phrosiectau celfyddydol cymunedol eraill.

Mae hefyd wedi gweithio yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yn y meysydd cyfiawnder cymunedol a chymdeithasol.

Emily Hutchings

Gwybodaeth i ddilyn.

Ffion Haf Evans

Mae gan Ffion 14 mlynedd o brofiad o gyfarwyddo'r theatr a darlithio ym maes drama, theatr a pherfformio mewn Addysg Uwch. Mae'n arweinydd ym mhwnc Ffilm, y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Drama ac yn Uwch Ddarlithydd mewn Perfformio ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n goruchwylio cwricwlwm y cyrsiau israddedig yn Adran y Celfyddydau yn Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith. Yn aml mae’n cydweithio â rhanddeiliaid allanol ac ymarferwyr o'r diwydiannau creadigol i wella’r rhannau perthnasol o’r cwricwlwm. 

Mae ganddi ddiddordeb mewn meithrin y genhedlaeth nesaf o bobl greadigol i'r diwydiannau creadigol, iechyd ac addysg. Mae bob amser yn sicrhau bod pob llais i’w glywed yn ein byd amrywiol.

Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Cysylltiol i’r Frân Wen. Yno bu'n cyfarwyddo cynyrchiadau teithiol ledled Cymru a chyfrannu at sefydlu'r cwmni i bobl ifanc sydd bellach wedi'i ymsefydlu yn ei adeilad ei hun, NYTH, ym Mangor. Cyfarwyddodd gynyrchiadau cenedlaethol hefyd i Theatr Cymru (Theatr Genedlaethol Cymru gynt) mewn lleoliadau fel Sherman Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Canolfan y Celfyddydau - Taliesin, Theatr y Lyrig, Canolfan y Celfyddydau - Aberystwyth, Theatr Clwyd, Galeri Caernarfon a Phontio. Bu hefyd yn datblygu mentrau artistig gyda National Theatre Wales, Living Pictures, Theatr yr Alban, Gŵyl Ymylol Ryngwladol Caeredin, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Sefydliad Goethe Glasgow a Theatr Schaubühne, Berlin.

Nan Williams

Cafodd Nan Williams ei geni ar Ynys Môn a’i magu yn Llanidloes. Mae’n entrepreneur, menyw fusnes ryngwladol a chyfarwyddwr anweithredol i wahanol sefydliadau Cymru. Drwy gydol ei gyrfa, mae’n hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb, cynhwysiant a symudedd cymdeithasol.

Sefydlodd Four Agency Worldwide ugain mlynedd yn ôl sydd â 7 swyddfa yng Nghymru (Four Cymru), Llundain, Sheffield a’r Dwyrain Canol. Mae'n arbenigo mewn rheoli enw da a phroblemau, cysylltu â rhanddeiliaid, gwasanaethau marchnata a Deallusrwydd Artiffisial cyfrifol. Mae ei gwybodaeth o lywodraethu’n dod o’i phrofiad o weithio gydag ystod o sefydliadau yng Nghymru wrth fod yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Abertawe, cadeirydd y sefydliad busnes Cymru ar wasgar (GlobalWelsh), Ymddiriedolwr Canolfan Mileniwm Cymru ac aelod cyfethol o fwrdd Opera Cymru.

Mae ganddi MA mewn Ieithoedd a Hanes Celf o Brifysgol Caergrawnt ac MBA o Ysgol Reoli Cranfield. Mae’n teimlo’n angerddol am gelf, y theatr, cerddoriaeth, hanes Cymru a rygbi. Ei diléit arall yw ei chi bach direidus, Sanau, sy'n hanu o Ben-y-bont ar Ogwr.

Mae’n siarad Cymraeg. 

Wesley Bennett-Pearce

Mae Wesley Bennett-Pearce (rhagenw: ef) yn gynhyrchydd theatr sydd â phrofiad helaeth o ddatblygu a chyflwyno perfformiadau byw. Mae’n Gyfarwyddwr Cynhyrchu yn Theatr Clwyd ac yn goruchwylio'r holl gynyrchiadau a’r gwaith sy’n dod gan eraill i’r theatr. Mae’n gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Artistig i gomisiynu a datblygu dramâu a sioeau cerdd newydd. Mae wedi ymrwymo i feithrin rhagor o gynhwysiant i artistiaid Byddar, anabl a niwroamrywiol ym mhob agwedd ar y theatr a'r celfyddydau yng Nghymru, ar y llwyfan ac oddi arno.

Roedd yn gynhyrchydd yn Leeds Playhouse am chwe blynedd, lle bu'n arwain cynyrchiadau mawr gan gynnwys Charlie and the Chocolate Factory (cyn mynd ar ei daith o amgylch Prydain), Hedwig and the Angry Inch (enillydd Gwobr Theatr Prydain) ac Oliver Twist (wedi'i gyfarwyddo gan Amy Leach), cynhyrchiad pwysig i Rampiau ar y Lleuad.

Mae'n angerddol am greu theatr uchelgeisiol, o safon sy'n ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ledled Cymru a’r tu hwnt. Yn Theatr Clwyd, mae'n arwain y timau cynhyrchu, rhaglennu, creu theatr a’r tîm technegol.

Dr Elid Morris

Pennaeth Gweithrediadau Taith yw Dr Elid Morris. Mae Taith yn rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru sy'n hwyluso cyfleoedd sy'n newid bywyd unigolion yng Nghymru drwy ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd. Gyda dros 25 mlynedd o brofiad mewn llywodraeth leol, addysg uwch a'r trydydd sector yng Nghymru, mae ganddi arbenigedd helaeth mewn rheoli grantiau, cydymffurfio, llywodraethu, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chydweithio sydd wedi cynnwys datblygu mentrau'r celfyddydau a diwylliannol.

Mae ganddi brofiad sylweddol o waith bwrdd, ar ôl gwasanaethu fel aelod annibynnol o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Perygl y Cyngor am chwe blynedd.

Mae’n angerddol am y celfyddydau, yn enwedig y theatr a cherddoriaeth. Bu hefyd yn aelod o wahanol gorau yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Sarah Pace

Mae Dr Sarah Pace yn Gyd-gyfarwyddwr Addo, sefydliad yng Nghymru sy'n curadu prosiectau celf gyfoes â’r nod o wella ecolegau diwylliannol lleoedd a chymunedau. Mae ganddi 20 mlynedd o brofiad yn sector y celfyddydau cyhoeddus. Mae’n cydweithio ag ystod o artistiaid, partneriaid a chymunedau i greu prosiectau sy'n cyfoethogi bywyd bob dydd a chreu newid cymdeithasol. Roedd ei hymchwil PhD yn archwilio comisiynu celf gyhoeddus gan y wladwriaeth er newid cymdeithasol. Llywiodd hon ei hagwedd feirniadol ac ymarferol at ymarfer celf gyhoeddus.

Bu’n arwain nifer o fentrau amlbartner mewn cyd-destunau cymhleth a rhyngddisgyblaethol. Mae ei phrosiectau diweddar yn cynnwys Undercurrents – On Our Doorstep, menter sy'n cysylltu cymunedau Cwm Aber â'u hasedau amgylcheddol a diwylliannol mewn partneriaeth ag Undercurrents – Celf yng Nghwm Aber a Thîm Datblygu Celfyddydau Cyngor Caerffili. Nawr yn Addo mae'n rheoli'r Rhaglen Breswyl yr Artistiaid Cysylltiol ar gyfer Natur am Byth, prosiect blaenllaw Adferiad Gwyrdd Cymru, ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru a'i bartneriaid.

Mae Sarah yn aelod o Brif Banel Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

Joshua Robertson

Mae Joshua yn strategydd diwylliannol blaenllaw ac arbenigwr polisi gyda chefndir deinamig sy'n cwmpasu'r celfyddydau, polisi cyhoeddus a chyfiawnder cymdeithasol. Mae'n arweinydd ym maes gwrth-hiliaeth a dad-drefedigaethu yn sector amgueddfeydd Prydain. Mae wedi arwain mentrau trawsnewidiol ledled y sector gan gynnwys Rhaglen Wrth-Hiliol yr Amgueddfeydd. Mae’n uchel ei barch ac yn arwain meddyliau pobl. Ysgrifennodd sylwebaeth bolisi ddylanwadol ac eiriolaeth ryngwladol sydd wedi llywio fframweithiau cenedlaethol a chreu newid systemig ar draws sefydliadau diwylliannol Prydain.

Mae hefyd yn berfformiwr amlddisgyblaethol medrus gyda chefndir mewn canu, actio a dawnsio. Mae ei hanes perfformio yn cynnwys gwaith gyda Katherine Jenkins OBE, Bastille, Hans Zimmer a'r cwmni theatr gorfforol ryngwladol Frantic Assembly. 

Mae ei yrfa hefyd yn cynnwys bod yn Gyfarwyddwr Cyswllt a Chymrodor Dysgu yn Opera Cymru, Cwmni Theatr Fio a Choleg Cerdd a Drama Cymru. Cydsefydlodd  Welsh, Gifted and Black a chreu’r gydweithfa artistig gyntaf yng Nghymru dan arweiniad pobl Dduon gan ail-lunio eu cynrychiolaeth yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru.

Mae ganddo gefndir mewn polisi llywodraeth trawsbynciol â chymysgedd unigryw o fewnwelediad traws-sector ac ymrwymiad i werth cyhoeddus. Rhyddfreiniwr Dinas Llundain ydyw a chafodd ei ganmol sawl gwaith yn ffurfiol am ei wasanaeth cyhoeddus a’i ddewrder. Mae'n angerddol dros gydraddoldeb, arloesedd a thrawsnewid diwylliannol.

Emily Bamkole

Addysgydd, artist dawns, coreograffydd a chynhyrchydd deinamig yw Emily Bamkole. Mae ei gwaith yn cynnwys perfformio, dysgu ac ymgysylltu â'r gymuned. Mae’n dod o Bort Talbot a dechreuodd ei thaith broffesiynol ym Mhrifysgol Roehampton. Yno bu'n astudio Dawns a hyfforddodd gyda chwmnïau enwog fel Dawns Ieuenctid Cymru, Cwmni Rambert Quiksilver, Cwmni Dawns Ieuenctid y Sir a Siobhan Davies.

Wrth wraidd ei hymarfer mae ei chred bod dawns yn iaith gyffredin i bawb ac y dylai felly fod yn hygyrch i bawb. Un o'i chyflawniadau mwyaf yw Seedlings of Time, cywaith gyda'i thad yn ystod y pandemig sy'n archwilio amser a chysylltiadau teuluol drwy ddawns.

Bu’n gynhyrchydd a rheolwr prosiect i sefydliadau dawns gorau Prydain gan gynnwys Trinity Laban, The Place, Cwmni Dawns Candoco a Chwmni Dawns Cymru. A hithau’n ymarferydd ac addysgydd ym maes y celfyddydau ac iechyd, mae wedi dod â dawns i bobl o bob oed a chefndir drwy Arts Depot, Age UK a Breathe Arts yn Ysbytai Guy a Sant Thomas a gwahanol sefydliadau addysgol.

Ei hathroniaeth yw "Byddwch yn afon, nid llyn" ac mae ei gyrfa’n adlewyrchu ei hymrwymiad i lifo a bod yn gysylltiedig. Mae’n ffynnu mewn gwaith sy’n symud rhwng perfformiad, addysg a gwaith gyda’r gymuned lle mae pob agwedd yn gweu drwy’i gilydd.

Amanda Morgan Thomas

Hyfforddwr ac Ymgynghorydd profiadol yw Amanda, sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n grymuso uwch arweinwyr yn rhyngwladol i wella perfformiad ar draws nifer o sectorau. Bu'n gweithio fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ym Mhrydain, Ewrop, y Dwyrain Canol, Affrica a’r UDA o’i chartref yn Llundain. Mae wedi cynghori am fusnesau newydd, caffaeliadau, cydfentrau ac ailstrwythuro.

Mae'n aelod ymroddedig o Fwrdd Cynghori Cymru i Marie Curie Cymru. Mae wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol yn Hosbis Plant Tŷ Hafan. Dros y 30 mlynedd diwethaf roedd yn dal gwahanol swyddi gweithredol ar fyrddau gan lunio ac arwain sefydliadau gydag uniondeb a mewnwelediad.


Mae ei chysylltiad â'r sector celfyddydau yn ddwfn. Mae’n berfformiwr a chefnogwr ymroddedig ers ei phlentyndod pan welodd rym trawsnewidiol celf. Mae ganddi ymrwymiad cadarn i gadw a meithrin cymuned gelfyddydol fywiog ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n tynnu ar y gwersi amhrisiadwy a'r arferion beiddgar a ddysgodd o weithio gyda llawer o sefydliadau. Mae ei gwaith gyda’r Cyngor yn cael ei danio gan ei chred ddiwyro ym mhwysigrwydd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd y celfyddydau. Gyda chymaint o brofiad, mae Amanda yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth, partneriaethau strategol a thrawsnewid gydag awydd i sicrhau bod dyfodol y sector yr un mor effeithiol â'i orffennol.