Gellir crynhoi ein strategaeth i dri gair: creu, cyrraedd, cynnal.
Creu
Ein nod yw galluogi creu celfyddyd, ar pa ffurf bynnag. Rydym eisiau meithrin hinsawdd lle bo'r artistiaid a'r sefydliadau gorau yng Nghymru yn medru creu eu gwaith gorau. Pan fo gwaith rhagorol yn cael ei greu, mae'n taro tant gyda phobl. Dyma pryd y mae pobl yn profi celfyddyd mewn ffordd go iawn, ac unwaith y mae'r cyswllt hwnnw wedi ei greu, yna mae'n cael ei wir werthfawrogi.
Cyrraedd
Mae medru cyrraedd pobl yn mynd law yn llaw â chreu celfyddyd rhyfeddol. Po fwyaf o bobl sy'n cofleidio celfyddyd yn ein cymunedau, ein theatrau, ysgolion ac orielau, yna mwya'n y byd y bydd ein cyrhaeddiad yn ymestyn.
Cynnal
Er mwyn sicrhau cynaladwyedd economaidd, rhaid i gelfyddyd aros yn berthnasol i bobl. Rydym eisiau cynorthwyo sefydliadau sy'n cael eu gwerthfawrogi i ddod o hyd, a datblygu modelau busnes newydd, sy'n annog dycnwch a hir-hoedledd.
Os hoffech ddarllen ein strategaeth ar gyfer creadigrwydd a'r celfyddydau yng Nghymru, medrwch lawr-lwytho'r PDF yma.