Mae'n rhannu grantiau yn dod o arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol ac yn hyrwyddo ffilm lle bynnag a phryd bynnag y bo modd gwneud hynny.

Cafodd ei sefydlu yn 2006 a swyddogaeth Ffilm Cymru Wales yw cyfrannu at ddatblygu'r sector ffilm yng Nghymru a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd economaidd, addysgiadol a diwylliannol sydd i'w cael ym maes ffilm.

Mae Ffilm Cymru Wales yn cefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr yng Nghymru trwy ariannu gwaith datblygu a chynhyrchu, trwy roi cymorth i'r diwydiant a darparu cyfleoedd mentora. Daw'r arian hwn o'r cyllid a godir at achosion da trwy'r Loteri Genedlaethol.

Nod Ffilm Cymru Wales yw dod â gwneuthurwyr ffilm a chynulleidfaoedd at ei gilydd drwy annog mwy o bobl i weld mwy o ffilmiau mewn mwy o leoliadau. Maent hefyd yn hyrwyddo'r defnydd o ffilm mewn addysg ac adfywio cymunedol, ac yn cynhyrchu adnoddau addysgiadol gydag athrawon er mwyn cynorthwyo gyda llythrennedd a dysgu cyffredinol.

Yn y ffilm fer isod, mae Pauline Burt, Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales, yn sôn am waith yr asiantaeth.