Mae Beacons Cymru yn hynod o falch eu bod yn parhau eu partneriaeth hirsefydlog gyda’r Eisteddfod a Maes B wrth iddyn nhw lansio eu prosiect newydd: Amlen.

 

Prosiect ymchwil a datblygu yw Amlen, sy’n anelu at chwalu’r rhwystrau i siaradwyr Cymraeg ifanc (18-25) sy’n ceisio dilyn gyrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth. Bydd y prosiect yn casglu data trwy holiaduron, grwpiau ffocws a gweithgareddau rhyngweithiol o bob rhan o Gymru, gan ddechrau yn yr Eisteddfod! Bydd Amlen yn casglu data empirig, gan ddangos tystiolaeth o anghenion y bobl ifanc hyn ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd, ac yn cyflwyno gweithgaredd peilot yn y dyfodol agos. Nid yn unig y bydd y canfyddiadau’n llywio strategaeth, polisi a darpariaeth dyfodol iaith Gymraeg Beacons Cymru; bydd ar gael yn rhwydd fel troedle trwy wefan Beacons Cymru, ar gyfer unrhyw sefydliad sy’n dymuno ei defnyddio a’i gweithredu.

 

Bydd Amlen yn mynd i Gaffi Maes B ar Ddydd Mawrth y 7fed o Awst rhwng 12:00-3:30yp i gynnal digwyddiad Basecamp Beacons Cymru. Mewn digwyddiad Basecamp, gall bobl ifanc gwrdd â'u harwyr diwydiant cerddoriaeth leol, cysylltu â gweithwyr proffesiynol ifanc o'r un anian, a datgloi gwybodaeth gyffrous a chyfleoedd newydd i helpu i ddatblygu eu gyrfa greadigol.

 

Bydd y sgwrs diwydiant yn ehangu ar waith cyffrous Amlen o’r enw Agor yr Amlen, lle bydd trafodaeth rhwng yr artist/actores Lily Beau (Y Golau/Y Sŵn), y cynhyrchydd Alaw, gitarydd Gwilym a ffotograffydd Rhys Grail, a'r cerddor Lewys am feysydd allweddol ymchwil Amlen. Anogir pobl ifanc greadigol i gymryd rhan yn y gweithdy creu posteri ar gyfer Brwydr y Bandiau Maes B, a bydd y digwyddiad yn cloi gyda pherfformiadau byw gan gyn-fyfyrwyr Prosiect Forté sef Skylrk, Elis Derby a Francis Rees.

 

Bydd adnoddau a gweithgareddau rhyngweithiol yn aros yng Nghaffi Maes B drwy gydol yr Eisteddfod, gyda’r nod o gasglu cyn cymaint o ddata hewristig â phosib gan y bobl ifanc sy’n mynychu’r ŵyl flaenllaw hon o ddiwylliant Cymreig. 

 

Dywedodd Glyn Rhys-James, swyddog prosiect arweiniol Amlen: “Dwi mor gyffrous ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau’r cyfle ymchwil hynod bwysig hwn yn yr Eisteddfod eleni. Mae’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yn parhau i dyfu a does ‘na ddim lle gwell i gloddio’n ddyfnach i’r pwnc hwn nag yn yr Eisteddfod a Maes B, yn enwedig pan fo’n ymwneud â siaradwyr Cymraeg ifanc sy’n awyddus i gael troed i mewn i’r diwydiant. Diolch yn fawr iawn i'r Eisteddfod a Maes B am y cyfle yma!”

 

I ddilyn taith y prosiect, gallwch ddod o hyd iddyn nhw ar Instagram @amlen.cymru, ac am fwy o wybodaeth edrychwch ar y dudalen ar wefan Beacons yn https://www.beacons.cymru/amlen. Yn ogystal â’r ymchwil yn yr Eisteddfod, fe fyddan nhw’n cynnal grwpiau ffocws ar gyfer amrywiaeth o siaradwyr Cymraeg ifanc yn y diwydiant cerddoriaeth, felly gwnewch yn siwr i gadw llygad am fwy o wybodaeth am hynny.

 

Mae Beacons Cymru yn sefydliad Cymru gyfan, sy’n anelu at rymuso’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc sy’n dyheu am weithio yn y diwydiant cerddoriaeth. Ein gweledigaeth yw rhoi mynediad i’r wybodaeth, y cyfleoedd, y rhwydweithiau a’r sgiliau diwydiant sydd eu hangen i bob person ifanc ledled Cymru allu cerfio gyrfaoedd cynaliadwy a modelau busnes newydd mewn cerddoriaeth.

 

Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Beacons Cymru yn www.beacons.cymru a cewch y diweddariadau diweddaraf am Amlen a'n holl brosiectau eraill yn syth i'ch mewnflwch.

 

I ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Cymru ewch i: http://eisteddfod.cymru/ 

 

I ddysgu mwy am Faes B ewch i: https://maesb.com