Mae’r dramodydd arobryn Jennifer Lunn yn gweithio gyda charfan bresennol rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu Theatr y Sherman i ddatblygu drama newydd i’w pherfformio gan Theatr Ieuenctid Sherman yng Ngwanwyn 2025.
Mae rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu rhad ac am ddim y Sherman yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc 15-18 oed archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol, ac fe'i hariennir gan y Moondance Foundation. Mae mentoriaid ac awduron gwadd blaenorol wedi cynnwys rhai o artistiaid mwyaf llwyddiannus Cymru, gan gynnwys Nia Morais, Connor Allen, Catherine Paskell, Kyle Lima, Matthew Trevannion , Catherine Dyson, Elen Bowman, Rahim El Habachi a Hannah McPake.
Yn dilyn proses gomisiynu a welodd bedwar awdur proffesiynol yn cyflwyno eu syniadau i'r garfan ifanc, dewiswyd cyflwyniad Jennifer. Bydd hi’n ysgrifennu’r ddrama newydd, y bydd yr awduron ifanc yn ei datblygu, yn ystod Gwanwyn 2024.
Mi fydd aelodau hŷn Theatr Ieuenctid Sherman, rhaglen theatr ieuenctid wythnosol y cwmni ar gyfer oedrannau 8-18 oed, yn perfformio’r ddrama, sydd heb ei theitl eto, fel eu Cynhyrchiad Gwanwyn 2025 blynyddol.
Dyma'r tro cyntaf i'r ddwy raglen gydweithio.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig Joe Murphy: “Mae hon yn garreg filltir enfawr i Theatr y Sherman; piblinell greadigol yn arwain o awduron ifanc i wneuthurwyr theatr ifanc, dan arweiniad un o ddramodwyr mwyaf cyffrous Cymr . Mae ganddo botensial enfawr nid yn unig i gynhyrchu gwaith newydd arloesol ond i ysbrydoli lleisiau newydd ac amrywiol yn y theatr.”
Dywedodd y Prif Weithredwr Julia Barry: “Rydym yn diolch i’r Moondance Foundation am eu cefnogaeth hael i wneud y rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu yn bosibl. Mae’r cydweithrediad newydd cyffrous hwn rhwng dwy o raglenni datblygu creadigol allweddol Theatr y Sherman yn enghraifft berffaith o’r math o ymarfer cydgysylltiedig rydym yn ceisio ei fodelu.”
Meddai Jennifer: “Mae'r awduron ifanc hyn mor gyffrous, mae'n fraint enfawr cael cydweithio â nhw ar y prosiect hwn. Pob clod i’r Sherman am roi’r cyfle hwn i ni weithio fel ystafell awduron ac ysgrifennu sioe ar raddfa fawr gyda’n gilydd. Gwyliwch y gofod hwn; rydyn ni’n cynllunio rhywbeth gwych!”