Ym mis Mawrth 2022, aeth 6 artist o Gymru i Austin, Texas i berfformio yng ngŵyl arddangos ryngwladol SXSW. Yn dilyn toriad mewn arddangosiadau rhyngwladol yn ystod Covid-19, i lawer o’r artistiaid, dyma oedd eu cyfle cyntaf i gymryd rhan yn un o wyliau mwyaf y calendr. Un o'r artistiaid hynny oedd Cara Hammond, a oedd yn ymweld â'r Unol Daleithiau am y tro cyntaf erioed er mwyn perfformio yn arddangosiad Focus Wales, ac eraill. Gyda chefnogaeth Cronfa Arddangos Ryngwladol Sefydliad PRS, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, perfformiodd Cara mewn sawl sioe arddangos, a rhannodd ei phrofiadau gyda ni wrth iddi ddarganfod y ddinas a’r ŵyl am y tro cyntaf.