Mae'r sioe olaf yn nhymor Volcano o berfformiadau byr newydd gan artistiaid annibynnol yn gyfle i unigryw i gleient gael gweld rhai o'r mannau llai adnabyddus o fewn yr eiddo nodweddiadol hwn sydd ar werth am bris deniadol mewn lleoliad cyfleus ar Stryd Fawr Abertawe, yng nghwmni'r Gwerthwr Tai, Marianne Tuckman.
Er gwaethaf ymgais orau ein hasiant, nid yw'r dangosiad yn mynd yn ôl y cynllun. Mae'r ‘tŷ’ wedi ei feddiannu gan leisiau brawychus pobl sydd angen rhywle fforddiadwy a gweddus i fyw, ac mae'n ymddangos hefyd ei fod wedi ei feddiannu gan rywun (neu rywbeth) llawer mwy diriaethol, ac ymddengys ei fod yn is-osod y bath…
Mae’r perfformiad trochi hwn yn ail-adrodd ‘The Little Mermaid’ gan Hans Christian Andersen yng nghyd-destun yr argyfwng tai.
Dychmygir dyfodol lle mae mwy o gyfalaf i angen nag arian. Os oes angen yr adeilad arnoch chi, chi sydd piau'r adeilad. Dydyn ni ddim yno eto.
Crëwyd a pherfformiwyd gan Marianne Tuckman, gydag ymddangosiad arbennig gan Paul Davies.
Mae THE RISING DAMP and OTHER TAILS ar ddydd Iau a dydd Gwener yn Volcano.
Mae MARIANNE TUCKMAN yn goreograffydd, perfformiwr, hwylusydd ac awdur sy'n byw rhwng Berlin a Leeds, sydd wedi bod yn gweithio'n llawrydd ers iddi raddio o'r Northern School of Contemporary Dance yn 2015. Mae ganddi MPhil o Brifysgol Abertawe, sy'n ymchwilio i'r berthynas rhwng testun a pherfformiad corfforedig. Yn ddiweddar, dyfarnwyd grant iddi gan Gyngor Celfyddydau Lloegr i ariannu cyfnod olaf y gwaith ymchwil a datblygu ar gyfer ei darn unigol The Dirt, sydd wedi ymddangos yn Leeds, Berlin ac Abertawe ac sy'n teithio i Oslo a Dyfnaint. Mae Marianne yn gwneud perfformiad doniol, swrealaidd a gwleidyddol i'w rannu â chynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol.