CYDLYNYDD IEUENCTID AC ADDYSG
A
CYDYMAITH CYMUNEDOL
£24,476 y flwyddyn pro rata
RHAN AMSER (19.5awr), PARHAOL
Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Cydlynydd Ieuenctid ac Addysg, a Chydymaith Cymunedol, i gefnogi’r gwaith o weinyddu a chydlynu gweithgarwch Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman. Cefnogir y swyddi hyn gan Sefydliad Moondance a byddant yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adran Ymgysylltu Creadigol a thîm ehangach y Sherman i sicrhau y darperir rhaglen eang o fentrau cyfranogol a mentrau datblygu cynulleidfaoedd.
Cynigir y swyddi hyn fel swyddi rhan amser (19.5 awr), parhaol. Mae Theatr y Sherman yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n dymuno ymgymryd ag un swydd neu'r ddwy swydd.
Dyddiad cau: 12 ganol dydd, dydd Llun 10 Mawrth 2025
Cyfweliadau: dydd Llun 17 Mawrth 2025 a dydd Mawrth 18 Mawrth 2025
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk
Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn ofod amrywiol a chynhwysol sy’n perthyn i bobl de-ddwyrain Cymru. Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan gymunedau ac unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein tîm ar hyn o bryd. Rydyn ni’n aelod o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd ac mae’r adeilad yn hygyrch, ym Mlaen y Tŷ a chefn llwyfan.
Mae pecynnau cais Cymraeg a Saesneg ar gael yn www.shermantheatre.co.uk/amdanom-ni/jobs/?lang=cy
Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydyn ni’n ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.