Mae Cwmni Theatr Bara Caws wed bod yn cyflwyno cynyrchiadau Cymraeg bob math yng nghalon cymunedau Cymru ers dros 45 o flynyddoedd.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Ymgynghorydd Marchnata a Gwefannau Cymdeithasol ac felly'n chwilio am unigolyn sy'n meddu ar sgiliau marchnata, cyfathrebu, a threfnu rhagorol.

Dyma gyfle gwych (a phrin!) i'r ymgeisydd Ilwyddiannus chwarae rhan yng ngham nesaf cyffrous y Cwmni unigryw yma.

Disgwylir i'r person a benodir ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.

Mae gallu cyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ir swydd hon.

I fynegi diddordeb ac i dderbyn y swydd ddisgrifiad llawn, cysylltwch à

Stephen drwy ffonio 01286 676 335, neu e-bost ar steve@theatrbaracaws.co.uk

Dyddiad cau yw Mehefin 16, 2023.