Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys, wrth ymateb i gyllideb Llywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys toriad i’r sefydliad o 10.5%:
"Mae ein cyllideb bresennol yn is nawr nag yr oedd yn 2010. Mae hynny'n golygu ein bod wedi colli traean o'n harian mewn termau real yn y cyfnod yna. Bydd y toriad sylweddol newydd hwn o 10.5% yn ei gwneud hi'n anos fyth sicrhau bod gwaith celfyddydol o safon ar gael ledled Cymru ar gyfer ein holl gymunedau. Bydd yn effeithio ar y gwaith amhrisiadwy rydym yn ei gefnogi yn y Celfyddydau ac Iechyd, Addysg, y Gymraeg ac ehangu ymgysylltiad, gan gofio bod pob un ohonynt yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Y gyllideb hon o £30.429 miliwn ar gyfer 2024/25 yw'r isaf ers 2007/08.
"Mae'n werth nodi bod tua 90% o'r arian rydym yn ei dderbyn yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru i sefydliadau ac unigolion creadigol. Bydd y toriad felly’n effeithio ar gymunedau ar hyd a lled y wlad.
"Mae Cymru’n wlad sydd wastad wedi gweld gwerth y celfyddydau. Byddwn nawr yn edrych ar ein holl gostau gan flaenoriaethu arian y gyllideb arfaethedig hon ar gyfer y sector ehangach a'r Adolygiad Buddsoddi. Er ein bod yn deall pa mor anodd yw’r sefyllfa ariannol i’r llywodraeth, mae’n rhaid i ni fel cenedl ystyried beth yw’r lefel cywir o arian i’r celfyddydau ac i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ledled Cymru."