Mae cast pantomeim Beauty and the Beast Glan yr Afon wedi glanio yng Nghasnewydd, gan danio teimlad o ddisgwyl eiddgar wrth i ymarferion ar gyfer eu pantomeim tymhorol gychwyn. Mae dychweliad ffefrynnau Casnewydd a thîm creadigol llawn Robin Hood, ynghyd â chyrhaeddiad llawer o aelodau cast newydd, wedi tanio cyffro drwy’r lleoliad. Yng nghanol y prysurdeb a'r bwrlwm egnïol a ddaw yn eu sgil, mae tîm Glan yr Afon wedi plethu ychydig o hud a lledrith i'r lleoliad, gan ei addurno gydag addurniadau thematig, cyfleoedd i dynnu lluniau a chwistrelliad hael o sbarcls.
Mae Theatr Glan yr Afon yn disgwyl yn eiddgar wrth baratoi ar gyfer datgelu’r dehongliad hudolus o Beauty and the Beast, sy’n agor ar y 29ain o Dachwedd.
Gall ymwelwyr â Theatr Glan yr Afon edrych ymlaen at brofiad anhygoel wrth iddynt gamu i fyd ffansïol Beauty and the Beast. Mae nifer o gyfleoedd tynnu lluniau hudolus a thematig yn aros teuluoedd, plant a ffrindiau er mwyn dal eiliadau cofiadwy gyda'i gilydd, gan gynnwys cadair dec Nadolig enfawr, toriadau cardbord llawn hwyl a'r cefndir hunlun perffaith.
Mae tîm Glan yr Afon wedi ymgolli'n llwyr yn ysbryd 'byd y panto' wrth iddynt wisgo’u crysau-t Beauty and the Beast newydd sbon. Mae'r cast a'r criw bellach yn cyfri i lawr yn eiddgar at y noson agoriadol, yn barod i ddod â "Beauty and the Beast" yn fyw ar lwyfan Theatr Glan yr Afon.
Rydyn ni mor gyffrous i groesawu pawb i'r adeilad am flwyddyn arall o hud byd y panto meddai Gemma Durham, Pennaeth Theatr a Chelfyddydau Casnewydd Fyw. ''Mae'r tîm yn falch iawn o gael y cast yn yr adeilad ac rydym yn barod i roi profiad gwirioneddol hudolus, cofiadwy i'n holl ymwelwyr.
Bydd Beauty and the Beast yn Theatr Glan yr Afon yn brofiad bythgofiadwy i'r teulu cyfan. Mae'r cynhyrchiad yn agor ar 29fed Tachwedd ac yn rhedeg tan y 6ed o Ionawr. Mae tocynnau yn dechrau ar £15 ac yn gwerthu'n gyflym, felly bachwch eich seddi heddiw!
I gael gwybodaeth am ac i gadw tocynnau, ewch i wefan Glan yr Afon neu drwy ffonio 01633 656757.