Yn y pedwerydd o gyfres perfformiadau 'The Shape of Things to Come' Volcano, mae mam yn chwilio am ei merch sydd wedi ei rhoi mewn gofal. Pan gafodd y ferch ei rhoi i'r system, newidiwyd ei henw heb i'w mam wybod. Dechreuodd ei mam chwilio drwy bob awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig i geisio dod o hyd i'w merch. Mae rhywbeth sy'n dechrau fel apêl am gymorth yn datblygu'n stori arswyd wrth i bethau gymryd tro goruwchnaturiol.
Gan dynnu ar ei phrofiad ei hun o fod mewn gofal yn Lloegr ac ar draddodiadau a straeon ocwlt, mae Rebecca Batala yn creu darn sy'n archwilio'r profiad o fod mewn gofal o safbwynt Pobl Ddu ifanc ac yn ymgysylltu â phrofiad y rhai ar yr ochr hon i'r ffin.
Mae REBECCA BATALA yn ddramodydd, awdur ac actor sy'n byw yn Llundain. Roedd hi'n rhan o Soho Writers’ Lab 2020/2021, lle cyrhaeddodd ei drama arswyd gyntaf Band 2 restr hir Gwobr Tony Craze. Cafodd ei drama fer gyntaf Roughly 150 Years ei llwyfannu yn y Blue Elephant Theatre ym mis Medi. Y llynedd, llwyfannwyd ei darn comisiwn Rubble fel rhan o Terrifying Women II: The Return yn y Golden Goose Theatre yn Camberwell.