AAr ddechrau 2025, rhannodd y cyfarwyddwr artistig Michael Sheen weledigaeth i greu gwaith o safon fyd-eang o Gymru a’i rannu â’r byd, gan ddod â doniau o Gymru at ei gilydd i greu theatr uchelgeisiol sy’n dod â stori’r wlad yn fyw.

Y dramâu

Heddiw, cafodd y weledigaeth honno ei gwireddu wrth ddatgelu dau gynhyrchiad cyntaf y cwmni: drama newydd epig Owain & Henry gan Gary Owen, gyda’i mesur di-odl yn rhoi bywyd newydd i wrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn coron Lloegr yn y bymthegfed ganrif.  Michael Sheen fydd yn chwarae cymeriad y Mab Darogan, sy’n gwrthdaro gyda Brenin Harri IV mewn brwydr a allai arwain at ryddid i Gymru a rhoi diwedd ar Loegr.

 

Poster for Owain and Henry

Yn gyd-gynhyrchiad rhwng Welsh National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru, bydd Owain & Henry yn cael ei dangos yn Theatr Donald Gordon y Ganolfan – y llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop – ym mis Tachwedd 2026, gyda Pádraig Cusack fel cynhyrchydd gweithredol.  Bydd tocynnau’n mynd ar werth ar 4 Awst 2025 i aelodau Canolfan Mileniwm Cymru, ac ar 8 Awst 2025 i’r cyhoedd.

Ynghynt yn 2026, bydd y Welsh National Theatre, mewn cyd-gynhyrchiad â’r Rose Theatre, yn cyflwyno Our Town, gan symud drama Thornton Wilder a enillodd Wobr Pulitzer i dref fach yng Nghymru. Michael Sheen fydd yn chwarae prif ran y Rheolwr Llwyfan, gyda Francesca Goodridge o Abertawe yn cyfarwyddo, Russell T Davies fel cyswllt creadigol, a Pádraig Cusack yn gynhyrchydd gweithredol.

Bydd y cynhyrchiad i’w weld yn Theatr y Grand, Abertawe (dydd Gwener 16 Ionawr 2026 – dydd Sadwrn 31 Ionawr 2026), Venue Cymru yn Llandudno (dydd Mawrth 3 Chwefror 2026 – dydd Sadwrn 7 Chwefror 2026), Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug (dydd Mercher 11 Chwefror 2026 – dydd Sadwrn 21 Chwefror 2026) a Rose Theatre, Kingston-upon-Thames (dydd Iau 26 Chwefror 2026 – 28 Mawrth 2026). Bydd tocynnau ar gyfer y Rose Theatre yn mynd ar werth heddiw, a’r tri lleoliad yng Nghymru yn nes ymlaen y mis yma.

Meddai Michael Sheen: “Mae gweledigaeth y Welsh National Theatre i’w gweld yn glir yn y ddau gynhyrchiad cyntaf yma. Owain & Henry yw un o straen tarddiad ein cenedl, mor berthnasol ym myd cymhleth yr oes sydd ohoni ag yr oedd pan ddatganodd Owain Glyndŵr Gymru yn genedl annibynnol chwe chan mlynedd yn ôl. Mae drama Gary Owen yn un o’r dramâu Cymreig mwyaf uchelgeisiol i fi eu darllen; a dyma’r ddrama fwyaf o ran maint a beiddgarwch yng ngyrfa Gary. Dyna’r meincnod a’r uchelgais greadigol rydyn ni am ei gosod gyda’r Welsh National Theatre.

“Bydd chwarae’r tywysog eiconig ar un o lwyfannau mwyaf Ewrop, yn ein prifddinas, yn eiliad ddiffiniol i ni fel pobl ac fel diwylliant rwy’n gobeithio. Dyma hanfod y Welsh National Theatre.

“Y tro cyntaf i fi weithio ar lwyfan gyda Russell T Davies oedd gyda Chwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg yn yr wythdegau. Russell bellach yw un o’r awduron gorau i’n cenedl eu cynhyrchu erioed. Mae’n teimlo’n addas ein bod yn dod yn ôl at ein gilydd ddeugain mlynedd yn ddiweddarach ar gynhyrchiad y Welsh National Theatre. Mae’r llwybr a gafodd ei osod i ni gan sylfaenydd y Theatr Ieuenctid, Godfrey Evans, yn rhywbeth rydyn ni’n dymuno ei ail-greu gyda’r cwmni yma, a dyma pam mae’n fraint cael y cyfarwyddwr dosbarth gweithiol o Gymru, Francesca Goodridge, wrth y llyw yn y sioe yma.”

Mae’r cynyrchiadau’n cael eu cyhoeddi wrth i Gyngor Celfyddydau Cymru gadarnhau cyllid pontio i helpu’r theatr newydd i ddatblygu ei strwythurau a’i gweledigaeth.

Yn ôl Michael: “Rydyn ni wrth ein boddau o allu cadarnhau cyllid pontio gan Gyngor Celfyddydau Cymru i alluogi’r Welsh National Theatre i ddatblygu yn y dyddiau cynnar yma.  Yn ogystal, mae ein model cyd-gynhyrchu yn addas i’r cam gweithio cynnar yma, ac mae’n wefr bod Canolfan Mileniwm Cymru a Rose Theatre yn ymuno â ni ar ein taith. Un ddrama wirioneddol uchelgeisiol sy’n edrych ar fodolaeth Cymru ar lwyfan mwyaf y wlad. Un dehongliad Cymreig o glasur sy’n teithio ar draws y wlad ac yn mynd â’n llais i Lundain, gan roi llwyfan i ddoniau o Gymru berfformio.  Allwn ni ddim aros i gwrdd â chynulleidfaoedd a’u croesawu i’n byd.”

Meddai Gary Owen: “Ro’n i’n gwybod y byddai adrodd stori Owain ar y llwyfan yn golygu bod angen sioe epig, ar raddfa enfawr.  Ro’n i wedi ceisio ysgrifennu fersiynau llai o’r stori a doedden nhw ddim yn gweithio.  Doedden nhw ddim yn rhoi synnwyr i chi o’r hyn oedd yn y fantol.  Byddai’n rhaid i ddrama Owain, fel brwydr Owain, fod yn ymrwymiad llwyr.   

“Mae dramâu enfawr yn costio arian, ac felly maen nhw’n risg fawr i gynhyrchwyr – dyna pam mai prin rydyn ni’n eu gwneud nhw yng Nghymru.  Dydyn ni ddim yn mentro.  Tan, un dydd, fe anfonodd Michael e-bost ata i.  A dywedodd wrtha i ei fod wedi mentro.  Ac felly dyma ni, yn cyflwyno’r stori enfawr yma ar lwyfan epig Canolfan Mileniwm Cymru.  Yn ymrwymiad llwyr.”

Meddai Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig a Chreadigol Canolfan Mileniwm Cymru: “Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn ymroddedig i weithio gydag artistiaid i adrodd straeon pwerus sy’n swyno ac yn ysbrydoli. Mae Owain & Henry yn adeiladu ar ein hymrwymiad i gynhyrchu theatr o ansawdd uchel gan gefnogi artistiaid sy’n byw yng Nghymru neu sy’n dod o Gymru i fod yn uchelgeisiol yn eu gwaith. Yn 2024, daeth cynulleidfaoedd o 28 o wledydd i weld Nye, a doedd 25% o’r gynulleidfa erioed wedi bod i sioe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o’r blaen. Bydd y cyd-gynhyrchiad yma gyda’r Welsh National Theatre yn rhannu stori eiconig arall sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yn ein hunaniaeth a’n hanes cenedlaethol; allwn ni ddim aros i gynulleidfaoedd ledled y byd ei brofi.”

Meddai Russell T Davies: “Dechreuais ysgrifennu fy sgriptiau cyntaf erioed yn fy arddegau ar gyfer Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg, a dyna lle cwrddais i â’r anhygoel Michael.  Roedd e’n eithriadol bryd hynny, ac mae’n dal i fod hyd heddiw – mae’r dyn yn arwr i fi, ac mae’n fy syfrdanu gyda’i egni a’i uchelgais!  Ac yn y byd rhyfedd yma sy’n gwallgofi rhywun, cynnydd yng ngrym diwylliannol Cymru yw’r union beth sydd ei angen arnon ni.  Dw i mor falch o fod yn rhan o dîm Our Town, drama hyfryd sy’n gweddu’n syth ac yn berffaith i leoliad clòs yng Nghymru. A gobeithio y galla i fod yn rhan o’r Welsh National Theatre am amser hir i ddod.”

Meddai Tappan Wilder, Rheolwr Ystâd Wilder: "Yn 1938, ysgrifennodd fy ewythr Thornton ddrama a ddisgrifiwyd ganddo unwaith fel 'cynrychiolaeth alegorïaidd o bob bywyd' – mewn geiriau eraill, drama am un dref fach a oedd mewn gwirionedd am yr holl Grover’s Corners ym mhob rhan o’r byd. Rydyn ni yn nheulu Wilder wrth ein boddau o wybod y bydd cynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael profi Our Town mewn cynhyrchiad gyda Chymro wrth y llyw, yr arbennig Michael Sheen. Rydyn ni’n sicr y bydd hwn yn arddangosiad hyfryd o apêl fyd-eang ac oesol y ddrama.”

Meddai Francesca Goodridge: “Mae symud Our Town i Gymru yn berffaith oherwydd wrth ei gwraidd, mae’r ddrama’n dathlu cymuned ac yn archwilio natur glòs bywyd mewn tref fach rydyn ni i gyd yn ei gyfarwydd â hi, wrth iddi deithio drwy fywyd, cariad a marwolaeth.  Does dim cyfieithiad perffaith ar gyfer “hiraeth” yn Saesneg; gair sy’n cyfleu dyhead am le, person neu amser na allwch chi ddychwelyd ato. Mae hwn yn deimlad rydyn ni i gyd yn gyfarwydd ag e. Mae Our Town yn dod â’r teimlad yma’n fyw drwy ddangos i ni, hyd yn oed ar y diwrnodau mwyaf di-nod, mor fregus yw bywyd, ac mae’n ein gorfodi ni i fyw yn yr eiliad.

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae’r byd yn lle ansicr a brawychus yn aml iawn. Mae Our Town yn ein hatgoffa am y pethau bach sy’n gwneud bywyd yn werth chweil – mae hi’n ysgytwad i bob un ohonon ni feddwl yn ddyfnach am ein bywydau wrth i ni eu byw, nid pan fo’n rhy hwyr. Mae’n fraint cael cyfarwyddo cynhyrchiad cyntaf Welsh National Theatre ochr yn ochr â Rose Theatre, a dw i wrth fy modd o fod yn ail-greu’r clasur byd-enwog yma o safbwynt Cymru.”

Christopher Haydon, Cyfarwyddwr Artistig Rose Theatre: “Alla i ddim meddwl am actor gwell i arwain y darn rhyfeddol yma na Michael Sheen. A dw i wrth fy modd yn enwedig mai Francesca Goodridge fydd yn cyfarwyddo – mae hi’n prysur sefydlu’i hunan fel un o gyfarwyddwyr mwyaf crefftus ei chenhedlaeth. Dw i’n falch y bydd The Rose yn cydweithio gyda’r Welsh National Theatre i lansio eu cynhyrchiad cyntaf, gan fy mod i wedi credu erioed ei bod hi’n hanfodol bod y gwaith mae The Rose yn ei greu yn taro tant ymhell tu hwnt i’n cartref yn Kingston. Dyma sioe â neges fyd-eang am gariad a phwysigrwydd cymuned. Bydd hi’n siarad â’n cynulleidfa leol ac â’r bobl ledled Llundain sy’n dal y gwerthoedd yma’n agos at eu calon. Ac i mi yn arbennig, mi fydd hi’n hynod gyffrous cael croesawu llawer o gymuned Cymry Llundain drwy ein drysau am y tro cyntaf!”

Y bobl

Sharon Gilburd yw Prif Swyddog Gweithredol sefydlol y Welsh National Theatre.  Mae Sharon yn cynnig cyfoeth o brofiad, o weithio’n rhyngwladol ar ddechrau ei gyrfa i asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig a Sefydliad Masnach y Byd yn Geneva, cyn sefydlu asiantaeth marchnata digidol ac ymgynghori gyda sefydliadau gan gynnwys HBOS, Visa a Barclaycard. Hi oedd cyd-gadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr National Theatre Wales, ac mae’n ymgynghorydd ac yn gyn-fyfyriwr i Academi Ffilm Llundain.  Hi yw cadeirydd y Ganolfan Gwasanaeth Cyhoeddus Digidol, penodiad gweinidogol sy’n adrodd i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi.  Mae Sharon wedi bod yn hanfodol yn y gwaith o ffurfio’r cwmni newydd ochr yn ochr â Michael Sheen.

Meddai: “Dw i wedi bod yng Nghymru ers ugain mlynedd, wedi dysgu’r iaith ac yn angerddol am Gymru fel cenedl ddwyieithog, sy’n ei gwneud yn lle gwirioneddol gyffrous i fyw a gweithio.  Er mwyn i’r Welsh National Theatre fynd â Chymru i’r byd, mae angen model ariannu cynaliadwy arnon ni. Lansiwyd y cwmni diolch i gyllid cynnar gan Michael, ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod bellach wedi cadarnhau cyllid pontio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Ein ffocws parhaus ar y cam nesaf yma yw datblygu perthnasau gyda sefydliadau’r sector cyhoeddus, sector preifat a dyngarwyr i fod yn gefnogwyr cadarn.”

Tim Price yw Rheolwr Llenyddol sefydlol y Welsh National Theatre. Tim yw awdur llwyfan a sgrin clodwiw Nye (National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru), Protest Song (National Theatre), The Radicalisation of Bradley Manning (National Theatre Wales) a llawer mwy. Yn debyg i Sharon, mae Tim wedi bod yn hanfodol i sefydlu’r Welsh National Theatre ochr yn ochr â Michael Sheen.

Meddai: “Rydyn ni wedi gweld gyda Nye yr awch sydd gan bobl am straeon mawr a beiddgar am Gymru, a dyna’n her ni i awduron Cymru: rydyn ni eisiau dramâu sy’n sefyll ysgwydd yn ysgwydd â goreuon y byd, gwaith sy’n archwilio ein gorffennol, ein presennol a’n dyfodol mewn ffordd mae Cymru’n ei haeddu, straeon y mae cynulleidfaoedd yn dyheu amdanyn nhw.  Mae angen artistiaid ar ein cymdeithas, a naratifau sy’n ein helpu ni i wneud synnwyr o Gymru a’r byd. Gyda’r Welsh National Theatre mae nawr ganddon ni’r cwmni i wneud hynny.”

Y dramodwyr a gomisiynwyd

Mae’r Welsh National Theatre yn comisiynu dramâu newydd gan Azuka Oforka, Sian Owen, Rhys Warrington ac Emily White – pedwar o’r lleisiau mwyaf cyffrous ym myd theatr Cymru heddiw.  Mae’r pedwar dramodydd eisoes yn gweithio’n ddiwyd yn creu’r dramâu mawr nesaf o arwyddocâd cenedlaethol ar gyfer tymhorau’r theatr yn y dyfodol.

Y Welsh Net

Uchelgais y Welsh Net yw adeiladu rhwydwaith o sgowtiaid doniau ledled Cymru. Gan fwrw golwg ledled Cymru, bydd y sgowtiaid yn gwylio theatr, perfformiadau a sioeau ieuenctid, amatur a phroffesiynol, gyda’r nod o ganfod a datblygu doniau.

Lle roedd y Welsh Not yn rhwystro mynegiant Cymreig, uchelgais Welsh Net yw ei hyrwyddo. Nod Welsh Net yw creu llwybrau sydd wedi diflannu, neu nad oedd yn bodoli, i helpu gwneuthurwyr theatr dawnus ledled Cymru i oresgyn y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu yn y diwydiant.

Meddai Michael Sheen: “Wrth dyfu i fyny ym Mhort Talbot, a chwarae pêl-droed ar gae drws nesaf i’r A48, ro’n i bob amser yn gwybod bod cyfle y byddai ’na ‘sgowt’ yn gwylio. Rhywun o’r ardal leol oedd yn cael y dasg gan glybiau proffesiynol i gadw llygad am ddoniau newydd. Roedd hynny’n golygu, waeth pa mor anodd oedd y daith yn y pen draw, roedd yna bosibilrwydd o lwybr i’r brig. Dw i eisiau i bob person ifanc, amatur a phroffesiynol sy’n perfformio neu’n gweithio tu ôl i’r llen yng Nghymru, gael yr un llwybr posib yna at frig y daith greadigol.”