Ar ddiwedd blwyddyn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed, mae Coleg Brenhinol Cymru wedi cyhoeddi mai’r Fonesig Shirley Bassey CH DBE CCBCDC fydd ei Lywydd newydd am y tair blynedd nesaf.
Mae’n olynu EF y Brenin Charles a oedd, pan yn Dywysog Cymru, yn Llywydd y Coleg, ac y cadarnhawyd yn gynharach eleni ei fod yn parhau fel ei Noddwr.
Mae Llywydd y Coleg yn rôl anrhydeddus sy’n cefnogi safle’r Coleg fel conservatoire cenedlaethol Cymru, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid o bob rhan o’r byd i astudio yma a chanfod eu llwybr i’r diwydiannau proffesiynol.
Mae'r Fonesig Shirley yn Gymrawd CBCDC ac â chysylltiad agos â’r Coleg am dros ddau ddegawd, ers i’w chefnogaeth hael greu ysgoloriaeth ganu werthfawr yn ei henw. Yn 2016 perfformiodd myfyrwyr y Coleg gyngerdd yn ei phresenoldeb, gan dalu teyrnged iddi hi a’i cherddoriaeth ac enwi Stiwdio’r Fonesig Shirley Bassey i gydnabod y berthynas arbennig.
Yn fwyaf diweddar daeth i ddathlu pen-blwydd y Coleg ym mis Mai, gan fynychu Gala yn Llundain, ymweld â champws newydd yr Hen Lyfrgell, cyfarfod â’r myfyrwyr Theatr Gerddorol a gwylio eu première o ‘Sweet Charity’.
‘Mae’n bleser ac yn anrhydedd cael fy ngwahodd i fod yn Llywydd nesaf Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Dros y 22 mlynedd yr wyf wedi bod yn gysylltiedig â’r man hyfforddi hynod gyffrous hwn, rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun faint sydd ganddo i’w gynnig a pha mor eithriadol yw’r myfyrwyr sy’n dewis astudio yn fy ninas enedigol, Caerdydd.
Fel Llywydd CBCDC, bydd yn bleser mawr i mi barhau i hyrwyddo pwysigrwydd y Coleg i Gymru ac i’r celfyddydau ym mhob rhan o’r byd.’
-Y Fonesig Shirley Bassey, Llywydd, CBCDC
‘Mae’r Fonesig Shirley wedi bod yn ffrind mawr i’r Coleg ers blynyddoedd lawer. Mae hi wedi cefnogi ein myfyrwyr yn uniongyrchol trwy ysgoloriaeth hollbwysig, wedi mynychu digwyddiadau a, thrwy ei doniau a’i gwaith caled, bob amser wedi dangos proffesiynoldeb, gallu celfyddydol a haelioni rhyfeddol i ysbrydoli ein myfyrwyr. Nawr, wrth i ni ddod â’n blwyddyn pen-blwydd yn 75 oed i’w therfyn, mae’n hynod gyffrous gallu ei chroesawu i’r Coleg yn rhinwedd swydd y Llywydd ac i ddathlu’r berthynas arbennig sydd rhyngom.
Mae hi wedi cyffwrdd â chymaint o fywydau ledled y byd fel ei bod yn cynnig ysbrydoliaeth eithriadol i ni, wrth i ni barhau â’n cenhadaeth i rymuso’r artistiaid newydd sy’n hyfforddi yma i ddatblygu gyrfaoedd creadigol a chynaliadwy ar y lefelau uchaf, ac i gael effaith ar y byd o’u cwmpas. ‘
- Helena Gaunt, Prifathro CBCDC