Y Fonesig Shirley Bassey yn treulio amser yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru …yn ei berfformiad premiere o Sweet Charity

Dychwelodd y Fonesig Shirley Bassey adref i Gaerdydd yr wythnos hon i fynychu perfformiad premiere myfyrwyr Theatr Gerddorol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o ‘Sweet Charity’.

Mae’r sioe yn cynnwys y gân yr oedd Shirley yn enwog am ei chanu, ‘Hey Big Spender’, ac ar ôl gweld y sioe treuliodd y Fonesig amser cefn llwyfan gyda’r myfyrwyr yn sgwrsio â’r cast a’r criw. 

‘Roedd hi’n sioe wych a hoffwn longyfarch pawb oedd yn gysylltiedig â hi. Pan fyddaf yn gweld myfyrwyr y Coleg yn perfformio rwy’n teimlo mor falch fy mod yn gallu cefnogi hyfforddiant nad oedd ar gael i mi pan oeddwn i’n ifanc. Gallaf weld eu gwaith caled ynghyd â’u talentau ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.’

Y Fonesig Shirley Bassey

Yn gynharach yn y dydd fe wnaeth gwrdd â myfyrwyr sydd wedi elwa gan ysgoloriaeth y Fonesig Shirley Bassey a sefydlwyd yn CBCDC trwy ei chefnogaeth. 

‘Mae cael y cyfle i groesawu’r Fonesig Shirley Bassey yn ôl i’r Coleg yn teimlo’n arbennig iawn. Ni all neb ysbrydoli sioe wych yn y modd y mae hi’n ei wneud a phan fyddwn yn perfformio iddi rydym bob amser yn gwneud hynny gyda chyffro mawr ac yn llawn diolchgarwch am ei chyfeillgarwch ac am y gefnogaeth a greodd ei hysgoloriaeth. Wrth i ni nodi ein pen-blwydd yn 75 oed rydym am dalu teyrnged i bawb sydd wedi cyfrannu cymaint i CBCDC dros y degawdau, gan rymuso pob elfen o’n darpariaeth mewn gwahanol ffyrdd.’

Helena Gaunt, Prifathro CBCDC

Perfformio ‘Hey Big Spender’ gerbron y Fonesig Shirley Bassey

Roedd Abena Adoma a Cadi Mullane yn chwarae rhan Helene a Nickie, sy’n arwain y gân ‘Hey Big Spender’.

Felly, sut brofiad oedd canu cân mor eiconig o flaen y perfformiwr sydd wedi ei gwneud hi mor arbennig?

  ‘Roedd hi’n fraint enfawr i mi berfformio ‘Hey Big Spender’ o flaen y Fonesig Shirley, ac yna cael cyfarfod â hi.

Hwn oedd y tro cyntaf i mi gael rhan gyda datblygiad cymeriad mawr a chân, felly roeddwn i’n meddwn y byddwn yn nerfus. Ond meddyliais am fy nhair blynedd o hyfforddiant canu, ac roeddem wedi cael ymarfer gwych cyn y sioe. Yna edrychais allan a gweld fy mam, a’r Fonesig Shirley Bassey yn eistedd ychydig y tu ôl iddi, ac roedd yn brofiad gwefreiddiol i ddangos iddi beth allem ei wneud.

Nawr rwy’n llawn cyffro ac yn falch iawn ohonof fy hun, a’r cast a’r criw, am berfformiad mor anhygoel. Rwy’n teimlo y gallaf nawr wneud unrhyw beth!’