Crochenwaith garw wedi’i ysbrydoli gan aber y Conwy a’r traethau cyfagos sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio i artist lleol.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 anrhydeddwyd Bev Bell-Hughes, crochenydd o Gyffordd Llandudno, gyda’r Fedal Aur am Grefft a Dylunio. Yn ogystal, dyfarnwyd y wobr ariannol lawn o £5,000 iddi.
Nid yw Bev Bell-Hughes yn ddieithr i’r Eisteddfod – dros y blynyddoed mae hi wedi arddangos ei gwaith yn Y Lle Celf droeon. Ac yn dilyn y dyfalbarhad dyma hi’n cipio’r fedal a hynny yn ei sir ei hunan.
Natur ddiamser ei gwaith apeliodd at y detholwyr Manon Awst, Bruce Haines aTeleri Lloyd Jones
Meddai’r arbenigwraig ar grefft a dylunio, Teleri Lloyd-Jones:
“Er mai ystrydeb yw sôn am y cyswllt rhwng clai a’r ddaear, mae gwerth ei hailadrodd yn y cyd-destun hwn. Mae’r arwynebau’n anodd, yn greigiog a thyllog. Mae pob darn yn benderfynol o haniaethol, ac eto’n sibrwd ffurfiau a gweadau sy’n gyfarwydd inni.
“Nid chwarae dynwared yw hyn. Nid ail-becynnu natur er ein boddhad a wna’r darnau. Yn hytrach, ail-greu a wnânt, wedi’u perfformio gan Bev Bell-Hughes a’i phroses, wrth iddi wthio a darbwyllo’r clai i’w ffurf.”
Wrth gerdded ac archwilio traethau Deganwy a Morfa mae Bev Bell-Hughes yn gweld marciau’r llanw a’r trai ar y tywod, y gwymon a’r cregyn ac erydiad y creigiau. Rhywdro nes ymlaen, fe ddaw ffurf gwaith newydd wrth weithio’n uniongyrchol â’r clai, yn gwasgu, pinsio ac ychwanegu deunyddiau eraill nes bod tyllau a chafnau’n ymddangos. Mae’r gwaith gorffenedig yn dal ac yn crynhoi hanfod elfennol y tirlun arfordirol.
“Siapau a ffurfiau’r ceramegydd a ddaw’n gyntaf, a dyma a deimlir yn bennaf heb os. Efallai bod hyn yn wir am bob crefftwr, wrth iddynt droelli’u deunydd i’w ffurf, ond yn fwy felly yn achos Bell-Hughes am ei bod yn rhannol-ddall ers ei geni. Wrth gwrs, ni chaiff ei gwaith ei ddiffinio gan fanylyn o’r fath. Greddfol yw ei phroses, wrth iddi weithio ei chlai heb ragdybiaeth o ran amcan. Yr hyn yr oeddem yn ymateb iddo, fel detholwyr, oedd ei hymrwymiad i archwilio’r ffurfiau hyn, sy’n argyhoeddiad creadigol gwirioneddol haeddiannol.”
Mae Bev Bell-Hughes yn Gadeirydd ar Gymdeithas Crochenwyr Gogledd Cymru, Ymddiriedolwr Celfyddydau Anabledd Cymru ac yn aelod Urdd Gwneuthurwyr Cymru.
Rhoddir Medal Aur am Grefft a Dylunio Sir Conwy 2019 er cof am Iona Coetmor, Pandy Tudur a’r £5,000 gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.
Gwireddir Y Lle Celf mewn partneriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.