Eleni bydd Wythnos Ffoaduriaid yn digwydd rhwng 14-20 Mehefin, gyda llwyth o ddigwyddiadau er mwyn dathlu.

Mae'r gweminarau'n cynnwys pynciau fel:
Adrodd Storiau o Ddadleoli gyda Dynoliaeth a Gobaith
The Man Who Fell From The Sky (Dangosiad Ffilm a Thrafodaeth Panel)
Lleisiau yn Erbyn Amgylchedd Gelyniaethus: Ni Allwn Gerdded Ar Ein Pennau Ein Hunain

Hefyd, mae yna ddigon o ddigwyddiadau creadigol fel:
Ymfudo, Cof, Lle a Ieithoedd -Gweithdy Ysgrifennu Creadigol gyda Eric Ngalle Charles
Siarad Allan: Cornel Barddoniaeth ac Adrodd Stori
The Good Lie: Dangosiad Ffilm Ymwybyddiaeth Wythnos Ffoaduriaid

Gallwch bori'r rhestr o ddigwyddiadau ar gyfer Wythnos Ffoaduriaid yma, a digwyddiadau 'Cymru: Dathlu Adref' yma.