Wicked Wales yn cymryd yr awenau! 

O Ddydd Llun 26ain i Ddydd Gwener 30ain o Orffennaf, bydd gwneuthurwyr ffilm ifanc prosiect #CymruNepal Wicked Wales yn edrych ar ôl Instagram Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, cyn premiere ei ffilmiau yng ngŵyl ffilm Croatia ar Ddydd Sadwrn y 31ain o Orffennaf.

Y gwneuthurwyr ffilm a fydd yn edrych ar ôl ein Instagram bydd: 
 
Osian Andrew 
Nidhi Raj 
Ffion Pritchard 
Sudin Bajracharya 
Sian Adler 

 
Rydym yn edrych ymlaen at glywed am eu teithiau creadigol, cydweithrediad rhyngwladol a'r prosiectOur Lives, Our Stories, Our Countries.'

Dilynwch Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ar Instagram a chadwch lygaid ar ein storiâu o Ddydd Llun i Ddydd Gwener y 26-30ain o Orffennaf! 

Mae’r prosiect peilot ‘Our Lives, Our Stories, Our Countries’, wedi’i gynhyrchu gan Wicked Wales Film ac International Youth Media Summit, yn gweld gwneuthurwyr ffilm ifanc o Gymru a Nepal yn cydweithio ar greu ffilmiau byr o gwmpas gweledigaeth ei hun o'u gwledydd. Cafodd y prosiect ei gefnogi gan y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol 2021-22.