- Cast a thîm creadigol dan arweiniad actor-gerddor wedi’i gadarnhau ar gyfer y cynhyrchiad Saesneg newydd sbon hwn, a ysgrifennwyd gan Catherine Dyson a’i gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo, Lee Lyford
- Bydd y sioe yn cynnwys golygfeydd hedfan, wedi’u creu gan NoFit State Circus
- Mae Peter Pan wedi'i anelu at blant 7+ oed a'u teuluoedd
- Ar y cyd, mae Theatr y Sherman hefyd yn cynhyrchu fersiynau Cymraeg a Saesneg o’u cynhyrchiad teithiol o Hansel a Gretel, wedi ei anelu at blant 3 – 6 oed a’u teuluoedd
- Mae'r ddwy sioe Nadolig yn cloi hanner canmlwyddiant y cwmni
Mae cast o actorion-gerddorion wedi’u cadarnhau ar gyfer cynhyrchiad Nadolig pen-blwydd Theatr y Sherman yn 50, Peter Pan (27 Tachwedd 2023 – 6 Ionawr 2024). Mae’r sioe, cyd-gynhyrchiad gyda’r cwmni theatr plant Theatr Iolo, yn cynnwys golygfeydd hedfan a ddyfeisiwyd gan NoFit State Circus, prif gwmni syrcas cyfoes graddfa fawr y DU.
Mae drama newydd Catherine Dyson gyda chaneuon yn seiliedig ar chwedl oesol JM Barrie, yn dilyn y stori glasurol o safbwynt Wendy yn nag un y cymeriad teitl. Fe’i cyfarwyddir gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo, Lee Lyford.
Pan mae Wendy yn cwrdd â Peter Pan, mae hi’n dianc i fyd hudolus Neverland – byd â thylwyth teg, môr-forynion, a môr-leidr sydd â chrocodeil ar ei ôl.
Mae’n wlad lle rydych yn rhydd i chwarae, i gael anturiaethau, i hedfan ac i ganu. Ond mae hi hefyd yn darganfod grŵp newydd o blant sydd angen gofal – criw o fechgyn coll sy’n chwilio am fam.
Rhaid i Wendy benderfynu naill ai aros yn Neverland neu ddychwelyd adref i fywyd go iawn.
Meddai Lee Lyford: “Mae gan Theatr y Sherman enw gwych am greu sioeau Nadolig hudolus, felly mae’n anrhydedd i Theatr Iolo fod yn cyd-gynhyrchu sioe eleni yn y Brif Theatr. Bydd fersiwn Catherine Dyson o’r stori hoffus hon yn cludo cynulleidfaoedd i fyd lle gall unrhywbeth ddigwydd; lle mae plant ond yn cael eu cyfyngu gan yr hyn y gallant ei freuddwydio. I mi, y peth mwyaf rhyfeddol am theatr yw ei grym i siarad â chalonnau a meddyliau plant a phobl ifanc. Mae Peter Pan wedi dal dychymyg cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, ac ni allaf aros i weithio gyda thîm mor arbennig o gast a phobl greadigol ar y sioe Nadolig wirioneddol gofiadwy hon.”
Mae cast Peter Pan yn cynnwys; Owen Alun, Emily Burnett, Rebecca Hayes, Rebecca Killick, Kevin McIntosh, Peter Mooney, Alex Murdoch, Lynwen Haf Roberts a Keiron Self yn ei nawfed cynhyrchiad Nadolig yn y Sherman.
Yn ymuno â’r Cyfarwyddwr Lee Lyford yn y tîm creadigol mae’r Dylunydd Rachael Canning, y Cyfansoddwr a’r Telynegydd Gwyneth Herbert, y Cynllunydd Goleuo Ceri James (yn dathlu 25 mlynedd ers ei ddyluniad cyntaf ar gyfer Theatr y Sherman), Cyfarwyddwr Cerddorol Lynwen Haf Roberts a'r Cynllunydd Sain Ian Barnard.
Dros yr 50 mlynedd diwethaf, mae cynyrchiadau Nadolig a wnaed yn Theatr y Sherman wedi cyflwyno cenedlaethau o blant o bob rhan o dde Cymru i hud y theatr – bob amser â thro. Yn ei flwyddyn pen-blwydd yn 50 oed, mae’r cwmni’n cyd-gynhyrchu Peter Pan ochr yn ochr â chynhyrchiad teithiol newydd sbon o Hansel and Gretel (yn Saesneg) a Hansel a Gretel (yn Gymraeg).
Theatr y Sherman a Theatr Iolo yn cyflwyno
PETER PAN
27 Tachwedd 2023 – 6 Ionawr 2024
Theatr y Sherman, Heol Senghennydd, Caerdydd, CF24 4YE
Cyflwynir “Peter Pan” trwy drefniant gydag Elusen Plant Ysbyty Great Ormond Street a Concord Theatricals Ltd. ar ran Samuel French Ltd. www.concordtheatricals.co.uk
Yn cynnwys Perfformiadau Ymlaciedig, Sain Ddisgrifiedig, Penawdau a Dehongli BSL
Argymhellir ar gyfer plant 7+ oed a'u teuluoedd
Hyd y perfformiad: 2 awr