Mae Warning Notes yn cynnig profiad sonig grymus a throchol yn llawn cyffro a synau sy’n newid, ac mae’n dod i Waith Haearn eiconig Blaenafon ar 20 a 21 Medi 2024.

Wrth i’r dydd droi’n nos, cewch ymgolli mewn byd sain hudolus a pherfformiad byw yn yr awyr agored sy’n newid drwy’r amser. Gan ddefnyddio ensemble o ‘offerynnau’ mecanyddol trawiadol – gongiau, clychau, chwibanau a digwyddiadau ffrwydrol – mae Warning Notes yn creu seinwedd gyfoethog a phwerus sy’n rhoi llais i’r larwm cymdeithasol ac ecolegol presennol sy’n atseinio ledled ein byd.

Mae Warning Notes yn sioe newydd gan yr artistiaid Mark Anderson a Liam Walsh, a hwythau’n cydweithio â’r ymarferwyr creadigol dynamig Grug Muse (bardd a pherfformiwr Cymraeg) a  Marega Palser (dawnsiwr). Mae’n sioe sy’n fyrfyfyr ac yn ymateb i’r gynulleidfa a’r amgylchedd; mae’n chwareus ac yn hypnotig, gan ein gwahodd i wrando ar y presennol, ac i ystyried straeon personol a byd-eang – a’n dyfodol gyda’n gilydd.

Mae Warning Notes Blaenafon yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r sioe wedi ei chydgomisiynu a’i chydgyflwyno gan Cadw ac OCM.