Mae The Audience Agency yn chwilio am arbenigwr sydd â phrofiadau amrywiol yn y sector diwylliannol i arwain ein gwaith ym maes ymgysylltu â’r gymuned, cyfranogiad a chyd-greu.
Gwybodaeth am The Audience Agency
Mae The Audience Agency yn sefydliad ymchwil a datblygu annibynnol, nid-er-elw, gyda’r bwriad o geisio creu sector diwylliannol ffyniannus sy’n canolbwyntio ar bobl, sy’n addas ar gyfer y dyfodol, ac sy’n creu mwy o gyfleoedd diwylliannol a chreadigol i bawb.
Rydym yn darparu gwaith ymchwil, gwasanaethau a dealltwriaeth sy’n helpu ein rhwydwaith o gleientiaid a rhanddeiliaid i addasu gyda’u cymunedau ac ar eu cyfer. Mae ein tîm cyfeillgar a chydweithredol yn gasgliad o arbenigwyr ymroddedig sydd â chefndir yn y sectorau diwylliannol a chreadigol, ymchwil a/neu wyddor data, ac sy’n rhannu angerdd at y celfyddydau a diwylliant a’i allu i drawsnewid cymdeithas.
Y Swydd: Uwch Ymgynghorydd
Arwain o ran cymunedau, cyfranogiad a chyd-greu
Rydym yn gweithio gyda mudiadau diwylliannol i ddeall eu cynulleidfaoedd, i ddatblygu eu dull gweithredu ac i werthuso eu gweithgareddau. Agwedd hanfodol ar y gwaith hwn yw helpu mudiadau i ddatblygu perthynas ddwyffordd, empathig â’u cymunedau. Golyga hyn y bydd mudiadau’n dod yn fwy perthnasol a chynhwysol, ac y bydd dinasyddion yn cyfrannu’n fwy brwd ac yn siapio penderfyniadau. Weithiau bydd prosiectau’n gweithredu ar lawr gwlad ac yn gwneud gwahaniaeth mewn cymuned benodol, dro arall byddant yn helpu i newid strategaeth leol neu hyd yn oed bolisi cenedlaethol.
Rydym hefyd yn arbenigo mewn cefnogi celfyddydau cymunedol a chyfranogol, gweithgareddau sy’n canolbwyntio’n gryf ar werth cymdeithasol neu hybu democratiaeth ddiwylliannol, yn ogystal â helpu mudiadau i wasanaethu’n well y rheini sy’n llai breintiedig. Beth bynnag fydd y dasg, bydd eich profiad o ymgysylltu â chymunedau a’ch sgiliau hwyluso wrth gyd-greu yn werthfawr tu hwnt.
Byddwch yn arwain prosiectau sy’n gofyn am y ddealltwriaeth a’r wybodaeth yma a byddwch yn cefnogi eraill yn y sefydliad i sicrhau ein bod yn cyflawni’r agwedd hon ar ein gwaith i safon uchel ar draws pob un o’n 5 colofn gweithgarwch.
Contract
Ar gyfer y swydd hon, mae The Audience Agency yn croesawu ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn swyddi amser llawn neu ran amser, rhannu swydd, neu statws parhaol neu dan gontract.
Ar gyfer contract amser llawn parhaol, cynigir y swydd hon ar gyflog gros blynyddol o £40,000 (ar gyfradd pro rata os yn rhan amser).
Byddai contract amser llawn yn 35 awr yr wythnos y gellir ei weithio’n hyblyg mewn cytundeb â’ch rheolwr llinell.
Gallwch weithio o unrhyw le yn y DU. Er mai eich cartref fydd eich man gwaith arferol (gan ddefnyddio offer cyfrifiadurol a meddalwedd a ddarperir gennym ni), byddwn yn disgwyl i chi fod ar gael i deithio i gwrdd â chleientiaid yn y DU neu’n rhyngwladol a mynd i gyfarfodydd wyneb yn wyneb a drefnir gan y sefydliad. Telir costau teithio yn yr achosion hyn. Dylai pob ymgeisydd fod â'r hawl i weithio yn y DU. Nid ydym wedi ein trwyddedu gan y Swyddfa Gartref i noddi fisâu gwaith.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy lwytho ein pecyn ymgeisio i lawr.