Mae PYST yn falch o gyhoeddi system newydd fydd yn cefnogi artistiaid newydd i ryddhau eu senglau cyntaf a chreu chyfleon i hyrwyddo y senglau hynny.

Gan greu partneriaeth rhwng PYST, Cymru Greadigol, BBC Radio Cymru, Lŵp/S4C a Klust, bwriad UNTRO yw cynrychioli, cydlynu a hyrwyddo traciau gan artistiaid newydd o Gymru gan roi iddynt y profiad o ddysgu am y broses o ryddhau a hyrwyddo caneuon. Does dim dwywaith bod y camau cyntaf yma yn allweddol i unrhyw artist ac wrth gyfuno adnoddau a phrofiad y partneriaid, y nod yw arfogi artistiaid i gamu ymlaen ar eu siwrne tra hefyd fod yn gymorth i labeli Cymru weithio gyda’r artistiaid ar eu cynlluniau nesaf. Bydd y cynllun hefyd yn anelu at greu tirlun cerddorol mwy cynhwysol a hygyrch lle bydd cyfleoedd i ymwneud â’r byd cerddoriaeth Gymraeg yn agored, haws a chyfartal.

 

Mwy o wybodaeth: