Lansio Arddangosfa Stiwdios Agored- 15/11/24

Mae UNITe yn rhaglen stiwdio artist deg wythnos wedi’i lleoli yn g39 i artistiaid ddatblygu gwaith, arbrofi, ymchwilio, cael trafodaethau creadigol, a mwy. Mae ein tymor UNITe wedi rhedeg ers degawd. Rydym wrth ein bodd â’r rhan hon o’n rhaglen gan ei bod yn caniatáu inni gwrdd â phobl newydd a gweld arferion gwaith pobl. Mae’n rhan o’r ffordd yr ydym yn parhau i fod yn agored, yn dysgu ac yn newid yn barhaus.

Eleni rydym yn cadw'r oriel flaen ar agor yn ystod ein horiau arferol, gyda mwy o wybodaeth am yr artistiaid, gofod cymdeithasol ac adnodd llyfrgell am ofodau dan arweiniad artistiaid.

Gan gymryd ysbrydoliaeth oddi wrth ysgolion celf annibynnol, grwpiau stiwdio a gweithgareddau a arweinir gan gyfoedion, mae tymor UNITe g39 yn trawsnewid lleoliad yr arddangosfa yn ofod stiwdio artistiaid prysur a chanolbwynt ar gyfer ymchwil, hyfforddiant a chydweithredu creadigol. Rydym yn gwahodd y cyhoedd i mewn i weld yr artistiaid wrth eu gwaith yn y stiwdio, sef rhywbeth nas gwelir yn aml, ac i gymryd rhan mewn sesiynau trafod.

I'r cyhoedd, bydd y gofod ar agor fel arfer tra bydd y digwyddiadau’n esblygu a datblygu gan yr artistiaid sy'n ymwneud â'r rhaglen. Maent hefyd yn cael eu gwahodd i fynychu cyfres o sgyrsiau cyhoeddus am ddim gan nifer o siaradwyr sy'n ymweld yn cynnwys Larry Achiampong, Stephen Sutcliffe a dangosiad o'r ffilmiau yng Ngwobr Jarman 2024.

Yn flynyddol mae cymuned stiwdio UNITe yn meithrin a chefnogi artistiaid ar unrhyw adeg o'u gyrfaoedd. Mae'n ofod ar gyfer ymarfer celfyddydol a'r ymchwil, arbrofi, newid cyfeiriad, cydweithredu, hap a darganfyddiadau sy'n gysylltiedig â hynny.

Wrth ddod â chynulleidfaoedd g39 ac artistiaid at ei gilydd yn y modd hwn rydym eisiau hyrwyddo dealltwriaeth ynglŷn ag o ble y daw celf weledol. Beth bynnag yw'r cyd-destun a ble bynnag mae'r sefyllfa - y stiwdio, y gweithdy, y llyfrgell, ar y gliniadur, yn drefol neu wledig - maent i gyd yn safleoedd cynhyrchu sydd fel arfer yn cael eu cadw ar wahân i safleoedd arddangos.

Mae UNITe 2024 yn terfynu â digwyddiad stiwdio agored, a arweinir gan yr artistiaid i weld beth maent wedi bod yn ei wneud ac i ddathlu oriau olaf y preswyliad ac rydym yn cau ar ôl penwythnos hir yn y Rhath gyda dathliad tymhorol cynnar.