Mae Theatr y Sherman yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi manylion y chwe chynhyrchiad newydd - a dwy o ffefrynnau’r gynulleidfa a’r beirniaid sy’n dychwelyd - fydd yn ffurfio ei thymor Crëwyd Yn Y Sherman 2025.
Y chwe chynhyrchiad newydd sbon yw:
Hot Chicks gan Rebecca Hammond
Cyfarwyddwyd gan Hannah Noone
Cyd-gynhyrchiad gyda Grand Ambition
21 Maw-5 Ebrill 2025
Cefnogir gan Gyngor Abertawe, Llywodraeth y DU, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a People’s Postcode Lottery/Postcode Community Trust
Ar werth: Dydd Gwener 6 Rhag 2024
Penlan, Abertawe. Nawr.
Yn eu harddegau, mae Ruby a Kyla yn treulio’u nosweithiau yn siop gyw iâr Cheney’s, yn breuddwydio am symud i Vegas a mynd yn feiral. Ar hap maent yn cwrdd â Sadie, merch hŷn, llawer mwy cŵl, ac yn sydyn mae eu breuddwydion am bartïon pwll nofio a rholio mewn doleri o fewn eu cyrraedd… ond am ba bris?
Drama newydd danbaid, ddoniol a chythryblus gan Rebecca Jade Hammond sy’n dangos theatr Gymreig gyfoes ar ei mwyaf craff.
Fe berfformir Hot Chicks yn Theatr y Grand Abertawe hefyd rhwng 16 – 25 Ebrill.
Port Talbot’s Gotta Banksy
Cyfarwyddwyd gan Paul Jenkins
Cyd-gynhyrchiad gyda Theatr3
Cefnogir gan National Theatre Studio ac wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru
1 - 10 Mai 2025
Ar werth: 6 Rhagfyr
Port Talbot. 2018 - Nawr.
Rhagfyr 2018, mae Banksy yn cyflwyno anrheg Nadolig unigryw i Bort Talbot pan mae un o’i furluniau yn ymddangos ar garej gweithiwr dur lleol gan roi sylw rhyngwladol i’r dref. 2024, mae Port Talbot yn y newyddion unwaith eto pan mae diwedd cynhyrchu dur drwy ffwrnais chwyth, diwydiant sydd mor hanfodol i’r dref, yn creu cyfnod newydd o ansicrwydd.
Yn yr wythnosau ar ôl i waith celf Banksy ymddangos aeth Paul Jenkins a Tracy Harris o gwmni Theatr3 i siarad â phobl y dref. Fe gychwynnodd eu prosiect fel casgliad o ymatebion i’r Banksy cyntaf i ymddangos yng Nghymru, a dros chwe blynedd fe ddatblygodd yn bortread o gymuned ac yn deyrnged i’w hysbryd a’i gwytnwch. Nawr, daw lleisiau’r gymuned honno i flaen y llwyfan, gyda chast o actorion proffesiynol yn adrodd eu geiriau.
Mae Port Talbot’s Gotta Banksy yn ddrama newydd bwysig am bobl, pŵer a chelfyddyd stryd. Mae’n ddathliad o gryfder cymunedau i wrthsefyll holl heriau bywyd. Ymunwch â ni wrth i bobl Port Talbot rannu eu stori nhw yn eu geiriau eu hunain, yn y ddrama bwerus, deimladwy gair-am-air hon.
Perfformir y ddrama yn y Plaza, Port Talbot; Theatr y Grand, Abertawe; Theatr y Torch Aberdaugleddau a Thŷ Pawb, Wrecsam yn dilyn cyfnod yn Theatr y Sherman.
Biwti a Brogs / The Frog Prince gan Gwawr Loader
Cyfarwyddwyd gan Elin Phillips
Cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Cymru
24 Tach 2025-3 Ion 2026
Ar werth: 25 Tach 2024
Tre Melys. Nawr.
Dewch i Stiwdio’r Sherman a chamu i fyd gwbl hudolus gyda fersiwn newydd Gwawr Loader o stori’r Tywysog Broga gan y Brodyr Grimm. Dyma’r cyflwyniad perffaith i hudoliaeth theatr fyw i blant bach 3-6 oed. Perfformir The Frog Prince / Biwti a Brogs yn Saesneg ac yn Gymraeg, mewn perfformiadau ar wahân.
Gall cynulleidfaoedd ledled Cymru brofi’r sioe newydd ryfeddol hon gan y bydd hi’n teithio ledled de Cymru cyn ei chyfnod yn Theatr y Sherman dros y Nadolig, ac yn teithio i ogledd a chanolbarth Cymru yn gynnar yn 2026.
Alice: Return to Wonderland gan Hannah McPake
28 Tach 2025-3 Ion 2026
Ar werth: 25 Tach 2024
Caerdydd. 1947.
Y Nadolig nesaf, bydd Hannah McPake (Tales of the Brothers Grimm) yn mynd â chi ar antur newydd sbon o strydoedd llwm Caerdydd wedi’r rhyfel, i Wonderland, a hynny o gysur eich sedd yn ein Prif Theatr. Ymunwch â ni unwaith eto am sioe Nadolig anhygoel, llawen a thrawiadol, dan arweiniad actorion-gerddorion, sy’n addas i bawb dros 7 oed.
The Pilot gan Jennifer Lunn
Cyfarwyddwyd gan Francesca Pickard
6-8 Ebrill 2025
Ar werth: Dydd Gwener 6 Rhag 2024
Datblygwyd gan garfan bresennol rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu Theatr y Sherman
Perfformir gan Theatr Ieuenctid Sherman
Capel Celyn, 2065
Cydweithrediad newydd, arloesol ac ysbrydoledig sy’n uno lleisiau dwy o’n rhaglenni datblygu creadigol allweddol gydag un o ddramodwyr blaenllaw Cymru sydd wedi ennill gwobrau, Jennifer Lunn.
Salem gan Lisa Parry
Cyfarwyddwyd gan Sara Lloyd
Cydweithrediad â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer eu gŵyl NEWYDD
Mai 2025. Dyddiadau penodol i’w gadarnhau.
Pentre Gwynfryn. Yn awr.
Drama ddiweddaraf Lisa Parry (The Merthyr Stigmatist) fydd degfed cydweithrediad Theatr y Sherman gyda’n partneriaid agos, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a dyma ein comisiwn yn 2025 ar gyfer gŵyl NEWYDD y coleg.
Dyddiadau penodol i’w gadarnhau yn y flwyddyn newydd.
Y ddau gynhyrchiad sy'n dychwelyd yw:
Housemates gan Tim Green
Cyfarwyddwyd gan Joe Murphy a Ben Pettitt-Wade
Cyd-gynhyrchiad gyda Hijinx
21 Chwef - 8 Maw 2025
Ar werth: 25 Tach 2024
Mae Housemates yn ôl yn 2025, yn sgil galw mawr. Fe wnaeth cyflwyniad Tim Green o stori anhygoel a ddigwyddodd ond metrau o ddrysau’r Sherman ryfeddu cynulleidfaoedd ac ennill canmoliaeth frwd gan adolygwyr yn 2023. Dyma stori am ffrindiau a sbardunodd chwyldro a ddaeth â gofal sefydliadol i ben a sefydlu cartref byw â chymorth cyntaf y DU. Perfformir gan gast o actorion-cerddorion niwrowahanol a niwronodweddiadol, gan gynnwys aelodau o Academi Hijinx.
Bydd Housemates yn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Theatr y Torch, Aberdaugleddau ar ôl cyfnod o berfformiadau yn Theatr y Sherman.
The Women of Llanrumney gan Azuka Oforka
Cyfarwyddwyd gan Patricia Logue
26 Ebrill-10 Mai 2025
Ar werth yn awr
Mae drama hanesyddol ddinistriol Azuka Oforka yn wynebu gorffennol trefedigaethol Cymru benben. Dyma hi’n dychwelyd yn 2025 yn dilyn ei rhediad cyntaf pum seren ym mis Mai 2024 y gwerthwyd pob tocyn iddo. Caiff The Women of Llanrumney ei pherfformio yn Theatr y Sherman yn dilyn rhediad yn Stratford East yn Llundain.
Caiff cynyrchiadau pellach eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd.
Wrth gyhoeddi’r tymor, dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Joe Murphy: “Rwy’n gyffrous bod fy nhymor olaf fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman yn plethu gwaith newydd sbon, lleisiau newydd ffres a syniadau newydd ffres gyda sioeau hefyd yn dychwelyd yn sgil galw mawr. Byddwn yn darparu cynulleidfaoedd â sioeau y maent wedi’u mwynhau ac yn rhoi’r cyfle i eraill eu profi gan barhau i ehangu a herio ein gwaith. Mewn sawl ffordd mae’r tymor hwn yn gydgyfeiriant o’r holl waith rydyn ni wedi’i wneud ers i mi gyrraedd ac yn mynegi bwriad clir y cwmni hynod hwn i'r dyfodol. Yn y bôn, y bobl sy'n gwneud y lle hwn mor arbennig. Gwelwn hyn gyda'r artistiaid eithriadol sydd wrth wraidd y tymor, y mae llawer ohonynt, fel ein cynulleidfaoedd, wedi ymuno â ni ar ein taith. Felly, ni allai’r tymor hwn fod yn fwy gwefreiddiol nac yn fwy perffaith i mi.”
Dywedodd Prif Weithredwr Theatr y Sherman, Julia Barry “Wrth i ni edrych ymlaen at 2025, rwyf wrth fy modd bod y Sherman yn cyflwyno gwaith o ehangder mawr, gwaith o'r newydd a gwaith sy’n dychwelyd hefyd, ar gyfer ein cynulleidfaoedd. Mae gweld Housemates a The Women of Llanrhymney yn dychwelyd yn dangos yr effaith a’r awydd am ddramâu newydd sy’n adrodd straeon lleol ac sy'n wir uniaethu â’n cynulleidfaoedd a’n cymunedau, ac edrychwn ymlaen at rannu'r ddwy sioe â chynulleidfaoedd ehangach yn 2025. Ar y cyd, rydym yn gweithio gyda rhai o’r awduron a’r artistiaid gorau yng Nghymru ar hyn o bryd i ddod â gwaith newydd i’n llwyfannau a'u cynhyrchu ar y cyd gyda phartneriaid wirioneddol wych. Bydd Hot Chicks a Port Talbot’s Gotta Banksy yn adrodd straeon am gymunedau ar draws de Cymru gan ddod â materion cyfoes i'r amlwg.
Yn benodol, yn 2025, rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu arddangos holl dalent aelodau ein rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu, sydd wedi bod yn gweithio ar y cyd â Jen Lunn i ysgrifennu Pilot – a ysgrifennwyd yn arbennig er mwyn cael ei pherfformio gan aelodau o'n Theatr Ieuenctid. Mae cynnig profiadau creadigol i’n cymunedau yn ganolog i’n gwaith yn Theatr y Sherman ac mae cyfuno sawl menter wahanol i greu cynhyrchiad ar gyfer ein cynulleidfaoedd yn hynod gyffrous.”