Dyma alw ar awduron a chrewyr cerddoriaeth sydd ar ddechrau eu gyrfa: ymunwch â ni ar lwybr datblygu sydd â thâl i ysgrifennu opera Gymraeg.

Mae Tuag Opera yn llwybr â thâl ar gyfer 12 o artistiaid sydd ar ddechrau eu gyrfa (6 chrëwr cerddoriaeth, 6 awdur). Bydd pob artist a ddewisir yn derbyn £1000 yr un am gymryd rhan – cyfuniad o weithdai personol a chyswllt ar-lein dros gyfnod o 5 mis, yn gweithio ochr yn ochr â chantorion a phianydd. Bydd 6 o grewyr cerddoriaeth sydd ar ddechrau eu gyrfa yn cael eu paru â 6 o awduron/beirdd sydd hefyd ar ddechrau eu gyrfa a bydd y parau yn mynd ati i archwilio a chreu moment o opera gyda’i gilydd yn Gymraeg – a hynny gyda chefnogaeth ac arweiniad y cyfarwyddwr cerdd Iwan Teifion Davies, yr awdures Gwyneth Glyn a Michael McCarthy o Music Theatre Wales.

Ynghyd â chefnogi artistiaid i ddatblygu eu sgiliau, byddwn yn gofyn:

  • beth yw opera newydd?
  • sut gall fod yn rhan o’ Gymru sydd ohoni?
  • a yw gweithio yn Gymraeg yn gallu bod yn rhan o ddatblygu’r ffurf gelfyddydol a chreu traddodiad byw yng Nghymru?

Mae’r prosiect yn bosibl oherwydd cefnogaeth hael gan amrywiaeth o gyllidwyr, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Jerwood, a Sefydliad PRS.

Dyddiad cau: 1200 ganol dydd ar Dydd Gwener 19 Gorffennaf

Darllenwch mwy: Tuag Opera CYM | tycerdd

 

Dyddiad cau: 19/07/2024