Mae Hijinx, un o gwmnïau theatr cynhwysol amlycaf Ewrop, yn falch o gyhoeddi ei fod yn lansio rhaglen hyfforddiant ryngweithiol newydd, Tu Hwnt i Eiriau, a ddyluniwyd i gryfhau cyfathrebu a hygyrchedd ar draws y sectorau digwyddiadau a lletygarwch. 

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Digwyddiadau Cymru, mae’r hyfforddiant penodol hwn yn anelu at wella’r ffordd y mae timau digwyddiadau’n rhyngweithio gyda phobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, gan greu profiadau sy’n fwy cynhwysol a chroesawus mewn digwyddiadau ar draws Cymru a thu hwnt. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal trwy Gymru yn ystod Chwefror a Mawrth 2025 gyda lleoedd ar gael yn awr i sefydliadau eu harchebu ar y rhaglen. 

Trwy chwarae rhan deinamig, ymarferion drama a thrafodaethau grŵp gydag actorion Hijinx a hwyluswyr, bydd y rhai fydd yn cymryd rhan yn cael dealltwriaeth ddyfnach o sut i addasu eu harddull cyfathrebu i weddu i anghenion amrywiol y rhai fydd yn bresennol a chreu amgylchedd mwy cynhwysol. 

Amcangyfrifir bod 1 o bob 100 o bobl yng Nghymru yn awtistig ac mae 54,000 o oedolion ag anabledd dysgu. 

Cynlluniwyd y sesiynau hyfforddi hyn ar gyfer rheolwyr sydd am ddeall yr heriau y mae pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn eu hwynebu ac i ddysgu sut i helpu eu timau i roi cefnogaeth sy’n fwy cynhwysol. Fe’i hanelwyd hefyd at dimau rheng flaen sy’n ymwneud â’r cyhoedd yn gyson mewn digwyddiadau gan gynnwys y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau fel rhai chwaraeon, celfyddydol, twristiaeth a diwylliant yn ogystal â thimau digwyddiadau awdurdodau lleol a chwmnïau rheoli digwyddiadau.

Dros y blynyddoedd enillodd Hijinx nifer o wobrau am ei hyfforddiant ac mae wedi helpu cannoedd o dimau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i wella eu hyder a’u gallu i gyfathrebu’n effeithiol gyda phobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Bydd y sesiynau hyn yn rhoi hwb i sgiliau a hyder timau digwyddiadau, gan sicrhau mwy o gydraddoldeb a chynhwysiant i unigolion sy’n aml yn wynebu rhwystrau i’w hatal rhag cymryd rhan a mwynhau.

Aeth Tash Smith, Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid yn Frontrunner Events i’r sesiwn dreialu ar gyfer yr hyfforddiant a dywedodd “Roedd yr hyfforddiant Tu Hwnt i Eiriau mor effeithiol, cydbwysedd da o drafodaeth iach, ynghyd â gweithgareddau grŵp a’r actorion Hijinx yn perfformio theatr fforwm. Rhoddodd gyfle i ni ystyried sut y gall gwneud y newidiadau lleiaf helpu i wneud ein digwyddiadau yn fwy hygyrch. Ar ôl yr hyfforddiant rydym yn dechrau gwneud newidiadau i’r hyn yr ydym yn ei wneud a’r hyn yr ydym yn ei gynnig.”

Bydd y rhaglen hyfforddi Tu Hwnt i Eiriau yn cael ei chynnal yn y lleoliadau canlynol: Caerdydd (Y Ganolfan Chwaraeon Genedlaethol) ar 10 Chwefror a 4 Mawrth, Wrecsam (Tŷ Pawb) ar 21 Chwefror, a Chaerfyrddin (Yr Egin) ar 18 Mawrth. Cynhelir sesiwn ychwanegol yng nghanolbarth Cymru, gyda’r union ddyddiad i’w gadarnhau’n fuan. Y gost am y cwrs undydd yw £25 y person i sefydliadau bach gyda llai na 25 o gydweithwyr a £75 y person i sefydliadau mwy. Bydd nifer gyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i bobl y bydd y gost yn rhwystr iddyn nhw. 

Dywedodd Eloise Tong, Prif Weithredwr Hijinx:

“Rydym yn falch iawn o fod yn datblygu a chyflwyno’r hyfforddiant penodol hwn ar gyfer y sector digwyddiadau. Y bwriad yw cynyddu hyder a grymuso’r diwydiant digwyddiadau i greu digwyddiadau gwirioneddol hygyrch a chynhwysol sy’n agored i bawb. Diolch i Digwyddiadau Cymru a’r Gronfa Datblygu Sector am alluogi Hijinx i ddatblygu’r rhaglen hon. Rydym yn grediniol y bydd yn arwain at newid parhaol yn y ffordd y bydd digwyddiadau’n cael eu rhedeg yn y dyfodol.”

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yng Nghymru, Jack Sargeant:

 “Mae creu cynhwysiant gwirioneddol yn cychwyn gyda dealltwriaeth a chyswllt. Bydd rhaglen hyfforddiant flaengar Hijinx yn gam grymus tuag at sicrhau bod pob unigolyn sydd am gymryd rhan yn y celfyddydau creadigol yn cael ei groesawu a’i werthfawrogi. “Eisteddais mewn sesiwn Hijinx yn ddiweddar ac roedd yn wych gweld y canlyniadau real, ar y ddaear, y mae cyllid Llywodraeth Cymru yn eu cyflawni, ac i weld y cyfleoedd y mae’n eu cynnig i gefnogi pobl i gymryd rhan lawn a theimlo eu bod yn perthyn.”

Mae rhagor o fanylion am wasanaethau hyfforddi busnes Hijinx ar gael yn: https://www.hijinx.org.uk/cy/hyfforddiant-busnes/