Cyfuniad cyffrous o chwedlau a cherddoriaeth, draddodiadol a gwreiddiol, sy ’n dathlu’r delyn yng Nghymru.

Bydd Sioned Webb a Mair Tomos Ifans - a hanner dwsin o delynnau - yn adrodd hanes Marged Fwyn Ferch Ifan, y ddynes hynod o'r G18fed; yn canu am Dylwyth Teg Cader Idris ac yn dychmygu bod mewn parti efo nhw ar Fynydd Hiraethog. Cewch wybod hefyd pwy oedd Dafydd y Garreg Wen a beth yw'r hanes tywyll am bwll dwfn ar yr afon Teifi?

90 munud hudolus sy'n plethu tannau â llais, nodau â geiriau.

 

Bydd Trwy'r Tannau yn dangos yn y lleoliadau canlynol yn Mawrth 2024:

01.03 - Oriel Davies Gallery, Dre Newydd (dwyieithog)

08.03 - Neuadd yr Ysgol, Llanfihangel-ar-Arth (Cymraeg)

15.03 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli (Cymraeg)

22.03 - Arad Goch, Aberystwyth (Cymraeg)

23.03 - Neuadd Goffa Hood, Devauden (Saesneg)

30.03 - Theatr Melville, Y Fenni (Saesneg)

 

“Absolutely incredible, tears, smiles and everything in between. Utterly enthralling.”

“Wonderful performance. Sometimes uplifting, sometimes dark, often funny.”

“Difyr ac yn cadw sylw a diddordeb. Dda iawn!”

Adborth o Wyl Beyond the Border, 2023

 

Mae Mair Tomos Ifans yn gyfarwydd a chantores werin adnabyddus sy’n rhannu chwedlau a straeon gwerin o bob cwr o Gymru wedi’i plethu a chaneuon ac alawon traddodiadol.

Mae Sioned Webb wedi perfformio yn helaeth yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae’n adnabyddus am ganu’r piano a’r delyn deires ac am gyfansoddi a threfnu cerddoriaeth o bob math. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau, yn eu plith, cyfrolau o ganeuon gwerin yn nodedig ‘Hen Garolau Cymru’ a ‘Seiniwn Hosanna’.

 

Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi’r cam Ymchwil a Datblygu o’r brosiect yma.

Llun: Ceri Llwyd