Yr haf hwn yn y Drenewydd, yr Eisteddfod Genedlaethol a Glyn Ebwy, mae plant 6-11 oed yn cael eu gwahodd i Dreantur (Kidstown) i chwarae gêm enfawr y maen nhw’n ei chreu eu hunain.

Mae cyd-greu a chanoli lleisiau plant wrth galon Treantur (Kidstown), prosiect gan yr artistiaid Nigel & Louise gyda’r dylunydd Amy Pitt ac a gynhyrchir gan National Theatre Wales. 

Bydd Treantur yn rhoi’r llais y maent yn ei haeddu i blant Cymru. O newid hinsawdd i'r argyfwng costau byw, ni fu eu dyfodol erioed yn fwy ansicr. Trwy lawenydd chwarae heb rwystrau a grym adrodd straeon, mae Treantur yn cynnig lle i blant ddychmygu'r byd y maent am fyw ynddo a llunio dyfodol gwell i bob un ohonom. Mae'n bryd i ni, fel oedolion, wrando. 

Gosododd National Theatre Wales a Nigel & Louise gydag Amy Pitt sylfeini’r broses gyd-greu yn y Drenewydd ym mis Awst 2022. Dros bythefnos, bu plant lleol, artistiaid a’r gymuned yn ein helpu i brototeipio’r syniad ar gyfer Treantur. Amharwyd yn ddigywilydd ar etholiadau maerol gan ymlid teigrod; roedd siopau'n dosbarthu arian am newid; ac agorodd drws tylwyth teg ar waelod y goeden y tu ôl i'r bin. Yn y cyfamser, gofynnodd Nigel a Louise gwestiynau a gwrando ar yr hyn oedd gan y plant i'w ddweud.

Ym mis Gorffennaf-Awst 2023, rydym yn gwahodd plant 6-11 oed yn ôl i brofi Treantur ar raddfa fwy ac ar draws tri lleoliad yng Nghymru dros 16 diwrnod:



26-29 Gorffennaf, Y Drenewydd

Y tu allan i Oriel Davies, Y Parc, Y Drenewydd SY16 2NZ

5-12 Awst, Eisteddfod Genedlaethol Cymru,

Ar y maes, Llŷn ac Eifionydd, Boduan, Gwynedd LL53 6DW



18-21 Awst, Glyn Ebwy

Clwb Pêl-droed Beaufort Colts, Teras Brynteg, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent NP23 6NE

Ar ôl cael pasbort, bydd y plant yn cael mynediad i ardal chwarae fawr yn yr awyr agored, wedi'i dylunio gan Amy Pitt. Bydd pethau yno i chwarae â nhw, i’w hadeiladu ac i’w gwisgo. Bydd cynorthwywyr wrth law i helpu'r plant i wireddu'u dychymyg.

Gwahoddir oedolion i gael hoe, i ymlacio ac i wrando ar y newyddion am yr hyn sy’n digwydd y tu mewn.

Yn yr Eisteddfod, bydd Treantur yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg gan bobl greadigol/artistiaid gan gynnwys Mirain Fflur.



Bydd Nigel & Louise yn casglu cyfweliadau a straeon gan gyfranogwyr ifanc Treantur er mwyn creu sioe epig yn 2024, a fydd yn teithio ledled Cymru a'r DU.

Rydyn ni'n cynnig Saesneg gyda chymorth arwyddion, darlunwyr byw, cymorth cymorthyddion radio, sesiynau hamddenol, a theithiau cyffwrdd. Mae gan bob safle fynediad heb risiau.