• Dyddiad: 28 Mehefin 2023
  • Amseroedd: 10.00-11.00
  • Lleoliad: Ar-lein, trwy Zoom

Dechreuodd Traeth Breuwyddion yn 2021 fel taith gerdded greadigol 500 milltir o hyd yn archwilio arfordir y DU. Bydd yn gorffen gyda thaith arfordirol gyfranogol ledled y DU ac Iwerddon ym mis Mai 2025, sy’n cael ei datblygu gan Kinetika mewn cydweithrediad â Bywydau Creadigol.

Rydym yn dod â phartneriaeth ddigynsail o sefydliadau celfyddydol, diwylliannol, amgylcheddol a chymunedol at ei gilydd ledled Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, i archwilio atebion creadigol ar gyfer ein tirweddau lleol mewn ymateb i’r heriau a gyflwynir gan yr argyfwng hinsawdd.

Mae’r prosiect wedi magu momentwm a diddordeb sylweddol ers ein rownd gyntaf o ddigwyddiadau cyhoeddus yn gynharach eleni. Rydym nawr yn chwilio am sefydliadau celfyddydol ac amgylcheddol i fod yn 'Hybiau Traeth Breuddwydion'. Bydd yr Hybiau hyn yn dod â chymunedau ynghyd ar draws darn o arfordir (e.e. 30 milltir) ym mis Mai 2025, ac yn arwain gweithgareddau creadigol, diwrnodau traeth a theithiau cerdded.

I ddarganfod sut y gallech fod yn rhan o Traeth Breuddwydion, ymunwch â'n sesiwn Zoom.