• £650,000 wedi'i ddyfarnu i 17 o gomisiynau artistig newydd gan artistiaid anabl
  • Gwobrau’r DU yn bosib drwy gefnogaeth gan Arts Council England, Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland ac 11 o sefydliadau partner
  • Gwobrau Rhyngwladol wedi’u cyflwyno a’u cefnogi mewn partneriaeth â’r British Council  

Heddiw, rydym yn cyhoeddi’r artistiaid a’r cwmnïau anabl arloesol a ddewiswyd ar gyfer ein Gwobrau Partneriaid y DU a Rhyngwladol. Bydd y crewyr hyn yn datblygu gwaith sy’n herio canfyddiadau, yn tanio sgyrsiau hanfodol ac yn ailddiffinio ffiniau celfyddydau anabl.  

Yn y rownd yma o gyllid, bydd 17 comisiwn newydd eofn yn derbyn cefnogaeth, gyda 12 artist yn derbyn Gwobrau Partneriaid y DU a phump artist yn derbyn Gwobrau Partneriaid Rhyngwladol. Mae’r prosiectau hyn, a ddewiswyd o rownd hynod gystadleuol o 288 o geisiadau, yn cynrychioli gweledigaeth a menter artistig ragorol. Mae safon y ceisiadau yn parhau i arddangos y dalent eithriadol sydd o fewn y gymuned artistiaid anabl. 

Dyma’r artistiaid sy’n derbyn Gwobr Partneriaid y DU 2025 yng Nghymru: Ceri Ashe (Celfyddydau SPAN), Radha Patel ac Umulkhayr Mohamed o DARCH Collective (Tŷ Pawb). 

Mae’r 17 comisiwn newydd ac eofn yn gwthio ffiniau ym meysydd dawns, theatr, cerddoriaeth, llenyddiaeth, ffilm, a’r celfyddydau gweledol, gan archwilio anabledd, mudo, argyfwng hinsawdd, toriad mewn cyfathrebu, a hanesion cudd. O rêfs AI (Deallusrwydd Artiffisial) i operâu sebon pobl hŷn cwiar, cydweithrediadau cerddoriaeth Byddar i greu mythau ôl-drefedigaethol, mae pob darn yn herio normau, yn dyrchafu lleisiau nas clywir, ac yn ailddiffinio adrodd straeon. 

Rydym yn cyflwyno’r gwobrau hyn mewn partneriaeth, fel rhan o’n cenhadaeth i arwain newid sylweddol o fewn y sector diwylliannol, fel nad oes angen i ni fodoli bellach. Darganfyddwch fwy am sut rydym yn mynd ati i gyflawni’r cenhadaeth yma mewn sector heriol. 

Ar hyn o bryd Unlimited yw corff comisiynu’r celfyddydau anabl mwyaf y byd. Rydym yn cefnogi artistiaid anabl, ac wedi bod yn gwneud ers cychwyn yn 2013. Pan fydd artistiaid anabl yn cael eu cynrychioli ar lefel gymesur ar draws y sector diwylliannol, byddwn yn peidio â bodoli. Mae cyhoeddiad heddiw yn mynd â chyfanswm ein lefelau ariannu a ddyfarnwyd i £7.1 miliwn i 538 o artistiaid.