Rydym wrth ein bodd yn rhannu y byddwn yn cynnal taith Iaith Arwyddion Prydain (IAP) o'n harddangosfa Tir Cwiar ar Fawrth 15fed gyda'r artist hynod dalentog, Emily Rose! 

Oriel Elysium, Mawrth 15fed (2yb - 3yp) 

Amdan Emily Rose:

Mae Emily Rose yn Artist Gweledol Byddar sy’n arcwhilio’r byd dirgrynol o Celf Op cyfrwng cymysg. Wedi'i sbarduno gan angerdd dros creu celf sy’n hygyrch i'r gymuned Fyddar, mae hi'n gyson ymhlith amrywiaeth o brosiectau, gan wthio ffiniau canfyddiad ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd gyda'i chreadigaethau deinamig ac ysgogol gweledol. Mae hi hefyd yn hyrwyddo mynediad creadigol fel tywysydd teithiau IAP, ymgynghorydd IAP, hwylusydd gweithdai creadigol, ac ymgynghorydd hygyrchedd gwyliau/digwyddiadau. Mae hi'n gweithio ar brosiectau amrywiol i wneud y celfyddydau a diwylliant yn gynhwysol i bawb. 

Amdan Tir Cwiar: 

7fed Chwefror 2025 – 22ain Mawrth 2025 

Mae “Tir Cwiar” yn dathlu’r bywiogrwydd a gwytnwch y gymuned cwiar yng Nghymru, wedi eu magu gan y tir a hunaniaeth gyfunol. Trwy safbwyntiau croestoriadol 10 artist, mae’r arddangosfa’n ymchwilio themâu o’r trothwyol, cysylltiad, a pherthyn. Yn defnyddio themâu o dynerwch, “arallfyd”, a rhannu gofod, mae Tir Cwiar yn gwahodd cynulleidfeudd i archwilio perspectif cwiar a dychymyg cyfunol. Mae’n creu lle i rhannu pob stori, herio ffiniau ac dychmygu Cymru lle mae hunaniaeth pawb yn cael eu dathlu ac yn anrhydeddus. 

Gwybodaeth Hygyrchedd: 

Byddwn ni’n cwrdd o flaen yr adeilad ac aros am 5-10 munud ar gyfer unrhyw un sy’n hwyr i gyrraedd. Bydd dehonglydd IAP yn bresennol i sicrhau cyfathrebu esmwyth i bawb. Plîs byddwch yn ymwybodol ni fydd dehonglydd ar y daith IAP gan fod hon yn ddigwyddiad ar gyfer y gymuned IAP.
 

Dyddiad cau: 15/03/2025