Dydd Gwener, 21 Tachwedd 2025
Gweminar 12–1pm; Sesiwn Holi ac Ateb 1–1:30pm
Am ddim
Ar-lein dros Zoom
Ar gyfer gweminar olaf ein rhaglen beilot tair blynedd o hyd, Resilient Theatres: Resilient Communities, rydyn ni wedi gwahodd pedair theatr ranbarthol a ymatebodd i'n galwad dros yr haf am y rhan y mae gwydnwch neu greu cysylltiadau â’r gymuned leol yn ei chwarae wrth ddatblygu a rheoli eu theatr.
Bydd y weminar hon o ddiddordeb i unrhyw un sy'n dymuno clywed am reoli theatrau rhanbarthol, gwahanol fodelau ac arferion ar gyfer ymrwymiad â chymunedau lleol, neu wahanol fathau o wydnwch a'i effaith. Bydd pob un o'r sgyrsiau yn cynnig astudiaeth achos a fydd yn rhoi cipolwg ar ddiwylliant a ffyrdd o arwain a rheoli pob theatr.
Byddwn yn clywed yn gyntaf gan Alex Youngs, Prif Weithredwr y Gorleston Pavilion Trust yn Norfolk, a gymerodd drosodd brydles a’r gwaith o reoli Theatr Pafiliwn Gorleston, sy’n 125 mlwydd oed. Bydd Alex yn siarad am y newidiadau y mae wedi dechrau eu rhoi ar waith yn dilyn adolygiad o holl agweddau gweithredol y lleoliad er mwyn sicrhau gwydnwch a goroesiad y Pafiliwn mewn economi dymhorol, glan y môr.
Bydd Clare O'Hara a Vanessa Managhan o’r Theatre in Chipping Norton yn datgelu sut beth yw gweithio mewn theatr sydd wedi’i lleoli mewn ardal o gyfoeth eithafol ochr yn ochr â phocedi o anfantais ac amddifadedd cynyddol. Byddan nhw’n siarad am y gwaith cymunedol a ddechreuwyd ganddyn nhw yn 2020, fel rhan o'u rhaglen Take Part lwyddiannus, i gyrraedd y rhai sy'n wynebu rhwystrau cymdeithasol lluosog. Byddan nhw hefyd yn rhannu sut mae eu dull ‘anghenion yn gyntaf, a’r teulu’r cyfan’ wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol i'w theatr.
Bydd Neil Gwynne, cadeirydd bwrdd a phwyllgor rheoli’r Plaza Theatre yn nhref farchnad fechan Romsey yn Hampshire, yn sôn am y gwydnwch sefydliadol y tu ôl i'r Plaza sydd yn nwylo 320 o aelodau sefydliad budd cymunedol – The Romsey Amateur Operatic and Dramatic Society (RAODS). Ffurfiwyd y theatr yn 1983 drwy drosi sinema art deco a adeiladwyd yn 1931. Bu cyfnod pan oedd y lle dan fygythiad o gael ei werthu, ond mae bellach yn rhedeg rhaglen flynyddol o sioeau.
Bydd y sgwrs olaf gan Bill Hamblett, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Byd Bach yn Aberteifi sydd wedi ennill gwobrau am fod yn agos at gyrraedd sero carbon. Bydd Bill yn siarad am ei ddehongliad o wydnwch a'r hyn y mae'n ei olygu iddo ef a'i dîm, a'r effaith y mae'n ei chael ar waith creadigol a gweithrediad y theatr.
Mae'r weminar hon yn gyfle i rannu gwybodaeth â’r sector cyfan. Bydd o fudd i unrhyw un sydd am gael cipolwg ar brofiadau unigryw theatrau rhanbarthol y DU ac fe gaiff ei chynnal a’i chadeirio gan Claire Appleby, Pennaeth Adeiladau Theatr.
Bydd y sesiwn yn cael ei recordio, felly cofrestrwch hyd yn oed os na allwch ddod i’r digwyddiad byw fel y gallwch gael dolen i'r recordiad.