Mi fydd cyd-gynhyrchiadau Nadolig newydd Theatr y Sherman a Theatr Cymru ar gyfer plant iau, Biwti a Brogs - a The Frog Prince yn Saesneg - yn teithio lleoliadau ledled Cymru rhwng Tachwedd 2025 ac Ionawr 2026, gan gynnwys cyfnod o chwe wythnos yn y Sherman yng Nghaerdydd.

Mae'r cynyrchiadau newydd sbon yma wedi'u hysgrifennu gan Gwawr Loader a'u cyfarwyddo gan Elin Phillips - y ddwy yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd Sherman fel actorion mewn cynyrchiadau dirifedi gan gynnwys The Lion, the Witch and the Wardrobe (Nadolig 2015), ond bellach yn ysgrifennu a chyfarwyddo i'r cwmni am y tro cyntaf.

Fersiynau newydd hudolus o chwedl glasurol y Brodyr Grimm yw  Biwti a Brogs/The frog Prince, wedi'u hanelu at gynulleidfaoedd rhwng tair a chwech mlwydd oed. Caiff y ddau eu perfformio gan gast o ddau actor-gerddor; Anni Dafydd, a berfformiodd yn The Snow Queen Theatr y Sherman yn 2019, ac Owen Alun, y bydd cynulleidfaoedd yn ei gofio am chwarae sawl rôl yn ail-lwyfaniad Theatr y Sherman o A Christmas Carol y llynedd ac a gymerodd rôl Tinkerbell yn Peter Pan yn 2023.

Yn ymuno â Gwawr ac Elin yn y tîm creadigol mae'r Dylunydd Set a Gwisgoedd Carl Davies (Housemates Theatr y Sherman a Hijinx, Odyssey '84 Theatr y Sherman) a'r Dylunydd Goleuo Ceri James (Peter Pan Theatr y Sherman a Theatr Iolo, Hansel a/and Gretel Theatr y Sherman). Cyhoeddir enwau'r tîm creadigol llawn yn yr wythnosau nesaf.

Dros fwy na 40 mlynedd, mae cynyrchiadau Nadolig Theatr y Sherman wedi cyflwyno cenedlaethau o blant o bob cwr o dde Cymru i hud y theatr, gyda dehongliadau newydd deniadol ar straeon clasurol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae sioeau Nadolig Stiwdio'r cwmni wedi cynnig tro llawen a chyfoes ar stori dylwyth teg boblogaidd yn draddodiadol, ochr yn ochr â sioe ar raddfa fwy yn y Prif Dŷ i blant hŷn.

Eleni, yn ogystal â’r cynyrchiadau o Biwti a Brogs/The Frog Prince fydd ar daith, mae’r Sherman yn cynhyrchu Alice: Return to Wonderland, sioe newydd swreal a dyrchafol i gynulleidfaoedd ifanc 7+ mlwydd oed a’u teuluoedd, a berfformir yn y Prif Dŷ, 28 Tachwedd 2025-3 Ionawr 2026.

Fel theatr genedlaethol y Gymraeg, mae Theatr Cymru wedi bod yn diddanu ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd o bob oed ers dros ddau ddegawd. Yn gwmni teithiol arobryn, mae eu cynyrchiadau teithiol diweddaraf i blant yn cynnwys Dawns y Ceirw (gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru), Swyn a Llygoden yr Eira (gyda Theatr Iolo). Mae Theatr Cymru hefyd wedi cyd-gynhyrchu gyda chwmni theatr Gwawr ac Elin, Criw Brwd, gan ddod â Pryd Mae'r Haf? i lwyfannau ledled Cymru ddechrau 2020 a chreu fersiwn ddigidol fyw yn ystod y pandemig.