Mae sioe gerdd arobryn Theatr na nÓg, Eye of the Storm, yn dychwelyd i Abertawe'r hydref hwn, yn dilyn galw llethol sydd wedi gweld ei rhediad ysgolion chwe wythnos yn gwerthu allan fisoedd ymlaen llaw. Mae'r cynhyrchiad arobryn, a ysgrifennwyd gan Geinor Styles gyda chaneuon gan enillydd Gwobr Grammy Amy Wadge, yn rhedeg yn Theatr Dylan Thomas o 16 Medi tan 25 Hydref.

Wedi'i pherfformio gyntaf yn 2017 cyn teithio o amgylch y DU a Hong Kong, bydd Eye of the Storm yn torri tir newydd eleni gyda'i pherfformiadau cyntaf yn y Gymraeg. Bydd y cyfieithiad, Dal y Gwynt gan Gwawr Loader, yn cael ei berfformio ar gyfer ysgolion ac, am y tro cyntaf, mewn perfformiadau cyhoeddus arbennig.

Mewn partneriaeth â Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe, mae Theatr na nÓg yn cynnig profiad theatr unigryw i ddysgwyr y Gymraeg. Ynghŷd â chefnogaeth geirfa wedi'i theilwra a thrafodaethau cyn ac ar ôl sioeau, mae rhai dysgwyr hyd yn oed wedi cael eu castio yn y cynhyrchiad ei hun, gan gamu ar y llwyfan i berfformio yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed.

Dywedodd Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg ac awdur a chyfarwyddwr Eye of the Storm am y rhesymeg y tu ôl i’w ffocws ar yr iaith Gymraeg: “Mae Eye of the Storm wedi bod yn un o’n cynyrchiadau mwyaf llwyddiannus, gan deithio ledled Cymru, y DU a hefyd Hong Kong. Roedd cael yr ysgrifennwr caneuon Amy Wadge, sydd wedi ennill Gwobr Grammy, i greu’r gerddoriaeth yn rhan enfawr o’i lwyddiant, ond yn Theatr na nÓg, dydyn ni byth yn fodlon sefyll yn llonydd. Y tro hwn roedden ni eisiau gwthio’r ffiniau ymhellach drwy lwyfannu’r sioe yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed.

I ni, nid cynhyrchu theatr yn unig yw’r peth pwysig; rydyn ni eisiau gwneud gwahaniaeth. Dyna pam rydyn ni’n gweithio’n agos gyda dysgwyr Cymraeg, gan gynnig cefnogaeth iaith fel y gallant fwynhau’r cynhyrchiad i’r eithaf. Rydyn ni hefyd wedi castio dysgwyr Cymraeg i berfformio yn y Gymraeg ar y llwyfan am y tro cyntaf. Os ydyn ni o ddifrif ynglŷn â chyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yna mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan. Dyma ein rhan ni.”

Mae Eye of the Storm/Dal y Gwynt wedi'i leoli ym Mhenywaun, Aberdâr ac yn adrodd stori bwerus a chynnes Emmie Price, gofalwr ifanc sy'n breuddwydio am ddatrys yr argyfwng ynni trwy astudio pŵer corwyntoedd a phatrymau tywydd eithafol yng Nghanolbarth-Orllewin America. Mae'r dewis o ganeuon arddull gwledig yn rhoi naws Americanaidd i'r sioe, er ei bod wedi'i lleoli'n bennaf mewn parc carafanau yn Aberdâr.

Dywedodd Amy Wadge: “Calon Eye of the Storm/Dal y Gwynt yw Emmie, merch sy’n breuddwydio am ddilyn corwyntoedd yn America, ac mae cerddoriaeth gwlad yn gweddu’n berffaith i’w stori. Mae’n genre sy’n deimladwy ond eto’n ffraeth, yn llawn eironi, ac yn fwy na dim mae’n adrodd straeon sy’n gyrru’r naratif ymlaen.

Er bod pobl yn aml yn cysylltu cerddoriaeth gwlad â Tennessee neu Texas, rydw i wastad wedi teimlo bod gan Gymru berthynas naturiol â hi. Rydym yn deall ysbryd tref fach, y dygnwch, yr hiwmor, a’r frwydr. Efallai bod Emmie’n byw mewn parc trelars yng Nghymru, ond ei stori o galedi, gobaith a gwydnwch yw’r un stori y mae cerddoriaeth gwlad wedi’i hadrodd erioed.”

I ddechrau, datblygodd Styles a'i thîm Eye of the Storm drwy weithdai drama a gynhaliwyd gyda gofalwyr ifanc ym Merthyr ac Aberdâr, wedi'i hwyluso gan Barnardo's ac yna wedi cydweithio â Gofalwyr Ifanc Abertawe, a fydd eto eleni yn cefnogi'r ddrama drwy ddarparu hyfforddiant i gast a staff Theatr na nÓg. Mae'r cwmni hefyd yn edrych ymlaen at groesawu'r gofalwyr ifanc i rai o'r ymarferion.

Mae Eye of the Storm / Dal y Gwynt yn gynhyrchiad beiddgar ac amserol sy'n gafael yn uniongyrchol â'r materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw; o'r heriau cudd o fod yn ofalwr ifanc, i'r gostyngiad brawychus mewn merched sy'n dilyn gwyddoniaeth, yn ogystal â'r argyfwng hinsawdd parhaus. Wedi'i leoli yng Nghastell-nedd, mae gan Theatr na nÓg hanes balch o fynd i'r afael â themâu anodd mewn ffyrdd sy'n grymuso ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd ifanc i gredu y gallant newid y byd.

Dywedodd Geinor Styles: “Ers ein perfformiad cyntaf yn 2017, mae cynnydd niferoedd o ferched mewn STEM wedi bod yn boenus o araf. Ydy, mae nifer y menywod mewn rolau STEM wedi codi, ond dim ond 23% o’r gweithlu y maent yn dal i’w cyfrif. Ac mae’r argyfwng hinsawdd yn fwy brys nag erioed. Dyna pam rydyn ni’n credu ei bod hi’n hanfodol rhoi straeon i bobl ifanc sy’n eu hysbrydoli i gwestiynu, i weithredu, ac i weld eu hunain fel rhan o’r ateb.”

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru: “Mae Theatr na nÓg yn parhau i ddangos y rôl hanfodol y mae’r celfyddydau’n ei chwarae mewn addysg a dyfodol ein hiaith. Drwy lwyfannu Eye of the Storm yn y Gymraeg am y tro cyntaf, a thrwy gynnwys dysgwyr y Gymraeg yn weithredol fel cynulleidfaoedd a pherfformwyr, nid yn unig y maent yn creu theatr ragorol ond hefyd yn cryfhau hyder a balchder yn yr iaith.

Mae’r cynhyrchiad hwn yn mynd i’r afael â materion pwysig; o’r heriau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu i’r angen am fwy o ferched mewn STEM, tra ar yr un pryd yn ein helpu ar ein taith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwy’n canmol Theatr na nÓg yn gynnes am eu creadigrwydd, eu huchelgais a’u hymrwymiad i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.”

Bydd nifer gyfyngedig o docynnau ar gael ar ddyddiadau dethol i'r cyhoedd a gellir eu harchebu yn www.ticketsource.co.uk/theatr-na-nog. Mae perfformiadau yn ystod y dydd i ysgolion wedi gwerthu allan.