Bydd Theatr Iolo yn cydweithio â dau artist yn rhan o’u rhaglen Platfform, sy’n gefn i sgrifenwyr a gwneuthurwyr theatr i greu gwaith newydd yn arbennig i blant a phobol ifanc.
Mari Luz Cervantes a Greg Glover yw Artistiaid Platfform Theatr Iolo yn 2025. Bydd yr artistiaid yn treulio naw mis yn datblygu eu syniad ac yn cael eu mentora gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo, Lee Lyford. At hynny caiff y ddau artist flwyddyn eto o gefnogaeth o’r unfath ac arweiniad arbenigol gan y cwmni.
Mae Mari Luz Cervantes yn datblygu drama newydd o’r enw Dwi’n Dysgu, sy’n sôn am fudo i Gymru o wlad arall, darganfod ble’r ydych yn perthyn a dysgu caru pob rhan o’ch treftadaeth. Treftadaeth gymysg Mari ei hun ysbrydolodd y ddrama ac fe’i perfformir yn Gymraeg, Sbaeneg a Saesneg.
“Mae creu sioe deirieithog i blant, sy’n dathlu bywyd amlddiwylliannol yn y Gymraeg, yn rhywbeth mae arnaf eisiau ei wneud ers talwm. Mae rhaglen Platfform yn rhoi cyfle i artistiaid fel fi fod yn feiddgar. Mae cefnogaeth cwmni theatr mor adnabyddus yn rhoi lle i ni roi cynnig ar rywbeth fuasai efallai’n anodd i ni ei gyflawni ar ein pennau’n hunain.
Mari Luz Cervantes,
Artist Platfform
Mae Greg Glover yn sgrifennu drama i bobol ifanc o’r enw Drum Roll Please, sy’n chwilio stori wir Cawr Caerdydd – dyn ac arno gawraeth a ymunodd â Syrcas Barnum a herio’r byd!
“Rwyf am i Platfform roi help llaw i mi greu hud go iawn fydd yn cael gan bobol ifanc ddweud ‘diawch!’ am fod ganddyn nhw grebwyll ac maen nhw’n soffistigedig a does arnyn nhw ddim eisiau’r ail orau. Mae arnyn nhw eisiau rhywbeth sydd wedi cael ei greu gyda nhw, sydd iddyn nhw. Mae Cymru i’w chlywed yn lle gwahanol iawn o’i gymharu ag ychydig flynyddoedd cwta’n ôl a dyna rywbeth rwy am ei droi’n ddŵr i’r felin. Mae arnaf eisiau distyllu’r holl egni, pendantrwydd a smaldod yna i greu rhywbeth fydd yn codi ar bobol ifanc awydd dod yn eu holau i weld rhagor.”
Greg Glover,
Artist Platfform
Mae rhaglen Platfform Theatr Iolo ar fynd bob yn ddwy flynedd ac ar hyn o bryd mae’n ddichonol diolch i’r gefnogaeth mae’r cwmni’n ei chael gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
“Cyfle yw Platfform i sgrifenwyr a gwneuthurwyr theatr arbrofi mewn ffyrdd maen nhw efallai heb ei wneud o’r blaen. Mae sgrifennu i bobol ifanc yn cynnig posibiliadau creadigol rhif y gwlith ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Mari a Greg i’w helpu i adfywio eu straeon i gynulleidfaoedd ifanc.”
Lee Lyford
Cyfarwyddwr Artistig, Theatr Iolo