Mae Theatr Ieuenctid Canol Powys (MPYT) yn falch iawn o gyhoeddi eu bod yn dychwelyd i Wyeside yr hydref hwn, gyda’u cynhyrchiad mawr cyntaf yn y lleoliad ers 2018 – eu fersiwn hwy o’r sioe boblogaidd yn y West End The Curious Incident of the Dog in the Night-Time, fydd yn rhedeg 5–8 Tachwedd 2025.
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae MPYT wedi adfywio yn ystod y 18 mis diwethaf, gyda’r aelodaeth yn treblu o ran maint.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig Ralph Bolland:
"Mae Curious Incident yn ddrama wych ac un yr wyf wedi bod am ei chyfarwyddo erstalwm. Mae’n braf dod yn ôl i Wyeside gyda thîm cynhyrchu llawn a chwmni ifanc mor frwdfrydig.”
Mae MPYT yn gweithio gyda thîm o weithwyr theatr proffesiynol i arwain pobl ifanc i greu gwaith gyda dull ac ethos proffesiynol. Mae’r aelodau’n perfformio ar y llwyfan ond hefyd maent yn gyfrifol am y sain, goleuadau a’r elfennau technegol, gyda chefnogaeth rheolwr cynhyrchu profiadol.
Bydd y sioe hefyd yn nodi dychweliad y cyn-aelod Cai Williams, sy’n ymuno â’r tîm yn dilyn gradd mewn dylunio theatr yn LIPA. Hon fydd swydd gyflogedig gyntaf Cai yn y diwydiant – cyfle gwych i ddatblygu i weithiwr proffesiynol ifanc.
Cyfleoedd i Gymryd Rhan
Mae cyfleoedd o hyd i ymuno â’r cwmni ar y llwyfan ac oddi arni. Gwahoddir pobl ifanc 14-24 oed i sesiynau castio agored ar ddydd Mawrth 2 Medi (7-9pm) a dydd Sadwrn 6 Medi (1.30-4.30pm) yn Centre Celf, Heol Tremont, Llandrindod.
Mae sioeau MPYT yn gofyn am ymroddiad mawr, ond mae’r hyn a gewch chi’n ôl yn gallu newid bywyd. Dros y blynyddoedd mae aelodau wedi mynd ymlaen i ddod yn rhai o artistiaid amlycaf a gorau Cymru, gan gynnwys actorion fel Tom Cullen ac awduron fel Brad Birch ac Emily White. Mae cyn-dechnegwyr MPYT yn awr yn dal swyddi fel Pennaeth Cynhyrchu yn y Manchester Exchange.
Ychwanegodd Ralph:
“Hyd yn oed i’r rhai sydd ddim yn mynd am y celfyddydau, mae’r sgiliau y byddant yn eu cael yn amhrisiadwy - hyder, gwaith tîm, arwain, a phersbectif ehangach o’r byd. Mae’n daith anhygoel o dwf a chyfeillgarwch.”
Cyfle â Thâl: Technegydd Proffesiynol dan Hyfforddiant
Mae MPYT hefyd yn recriwtio ar gyfer swydd Technegydd Dan Hyfforddiant â thâl ar gyfer The Curious Incident of the Dog in the Night-Time. Bwriadwyd y cyfle ar gyfer rhywun 18-29 oed nad yw mewn addysg llawn amser bellach sydd â diddordeb mewn archwilio gyrfa yn ochr dechnegol y theatr. Mae’r manylion llawn ar gael yn www.mpyt.co.uk.
Gyda diolch i Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol a Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Llysdinam, Sefydliad Teulu Ashley, Ymddiriedolaeth Oakdale, Ymddiriedolaeth Gwendoline a Margaret Davies, Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd a Chyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth ar rannau gwahanol o’r prosiect hwn. Ni allem wneud dim heboch chi!
The Curious Incident of the Dog in the Night-Time
Canolfan Gelfyddydau Wyeside, 5-8 Tachwedd 2025
Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at hello@mpyt.co.uk neu ffoniwch 07810 350994