Bydd Theatr Hummadruz, Theatr Uwchfioled Cymru, yn cychwyn ar eu taith Straeon Rhyfeddol o Gymru ym mis Tachwedd gan ymweld â lleoliadau ledled Cymru. Mae eu cynyrchiadau lliwgar yn defnyddio propiau a pherfformwyr wedi'u goleuo’n uwchfioled i greu steil unigryw o berfformiad theatr a phrofiad synhwyraidd di-eiriau.
Bydd y cynyrchiadau yn cynnwys syrcas, dawns, pypedwaith, lledrith yn ogystal â cherddoriaeth Gymreig newydd, wedi'u cynllunio i swyno cynulleidfaoedd. Mae'r perfformiadau wedi'u creu i fod yn hwyl a hygyrch i bobl o bob oedran a gallu, beth bynnag fo'u hiaith.
Mae'r daith ym mis Tachwedd yn agor yng Nglan yr Afon, Casnewydd (8 Tachwedd), cyn galw yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe (11 Tachwedd), Theatr Ffwrnes, Llanelli (13 Tachwedd), Y Met, Abertyleri (18 Tachwedd), Borough Theatre, Y Fenni (20 Tachwedd) a Theatr Savoy Trefynwy (22 Tachwedd).
Mae’r daith Straeon Rhyfeddol o Gymru yn bosibl trwy gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa’r Loteri ac fe'i crëwyd mewn cydweithrediad â Theatr a Chanolfan Celfyddydau Glan yr Afon.
Straeon o Gymru
Bydd dau ddarn ym mhob perfformiad: bydd y Cwmni yn ail-ddychmygu When the Dragons CameBack to Wales o'u taith lwyddiannus yn 2023 ochr yn ochr â chynhyrchiad newydd sbon ar gyfer 2025, UFO.
Mae UFO yn archwilio mythau modern yr UFO a straeon am ymweliadau estron â Chymru sy'n cysylltu'r adroddiadau honedig o Bentre Ifan, Ynys Enlli ac Aber Llydan. Mae When the Dragons Came Back to Wales yn adrodd hanes merch ifanc sy'n creu barcud siâp draig ar gyfer carnifal. Wedi'i rhyddhau yn ystod storm ffyrnig, mae'r ddraig yn achosi trybini sydd â chanlyniadau byd-eang.
Hummadruz
O arbrofion cynnar gyda golau uwchfioled mewn partïon rêf yn y 90au i berfformio o flaen miliynau ar Britain's Got Talent, mae Cyfarwyddwr Theatr Hummadruz, Stuart Bawler bob amser wedi mynd ar drywydd ei chwilfrydedd. Arweiniodd jyglo tân ym mryniau canolbarth Cymru at greu cwmni proffesiynol o ddawnswyr, artistiaid syrcas a phypedwyr llawrydd, lledrithwyr a cherddorion sy'n cydweithio i ddod ag ymdeimlad o syfrdandod, rhyfeddod a llawenydd i lawer o bobl.
Cerddoriaeth Newydd o Gymru
Cyfansoddwyd y trac sain newydd sbon ar gyfer UFO gan y cyfansoddwr a'r cerddor o Gymru, Lenny Sayers a'r cyfansoddwr o Gymru, Stafford Bawler a bydd yn cael ei berfformio a'i recordio gan gerddorion clasurol llawrydd o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru. Bydd y perfformiadau yng Nghasnewydd ac Abertawe yn cynnwys perfformiad byw o'r gerddoriaeth gan Lenny, Stafford a'r cerddorion, gyda pherfformiadau dilynol ar y daith yn cynnwys y trac sain sy'n cael ei recordio mewn sesiwn arbennig yn Nhŷ Cerdd Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Mae sgôr wreiddiol gan Lenny Sayers, Prif Glarinetydd Bas gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, hefyd yn ymddangos yn When theDragons Came Back to Wales.
Collodd Stafford Bawler, brawd Stuart, ei goesau a’i freichiau ar ôl cael ei daro gan sepsis yn 2022. Mae cyfansoddiadau a dyluniadau sain fideo Stafford wedi ennill gwobrau iddo dros y blynyddoedd ac mae'n parhau i ysbrydoli pobl o bob gallu er gwaethaf ei anabledd ei hun trwy barhau i greu cerddoriaeth i eraill ei mwynhau. Mae Stafford yn ymuno â'r cerddorion ar Theremin, offeryn electronig sy'n cael ei chwarae heb gysylltiad corfforol gan y perfformiwr, a reolir gan ddefnyddio meysydd magnetig trydan.
Yn ogystal â'r daith dwy sioe, bydd y Cwmni hefyd yn perfformio When Dragons Came Back to Wales fel perfformiad unigol yn The Court Yard, Henffordd ddydd Mercher 29 Hydref.
Dywedodd Stuart Bawler, "Rydyn ni wrth ein bodd y bydd y ddwy stori yn cael eu hadrodd mewn perfformiad uwchfioled gorfoleddus trwy fynegiant a symudiad i gefndir o gerddoriaeth a grëwyd yn arbennig sy'n dathlu cyfansoddwyr a cherddorion o Gymru.Bydd y daith yn creu profiadau gwych i gynulleidfaoedd beth bynnag fo'u hiaith, eu hoedran neu eu gallu. Rydw i hefyd yn gobeithio y bydd yn ysbrydoliaeth i bob perfformiwr anabl gymryd rhan yn y celfyddydau. Bydd y daith yn dangos sut y gall rhwystrau gael eu chwalu, gan arwain at berfformiadau theatrig hardd a hygyrch gan gynnwys ein darn newydd sbon, UFO, sydd yn llythrennol arallfydol!"