Mae'n bleser gan Theatr Glan yr Afon gyhoeddi'r cast ensemble ar gyfer cynhyrchiad pantomeim 2023 o Beauty and the Beast. Gyda chyfuniad o wynebau newydd a chyfarwydd, mae'r cast ensemble talentog hwn yn barod i ddod ag ysbryd a llawenydd yr ŵyl i'r llwyfan, gan wneud cynhyrchiad eleni yn wirioneddol fythgofiadwy.

Edrychwch pwy fyddwch chi'n ei weld ar y llwyfan:

Aaron Anderson

Mae Aaron yn un o raddedigion Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance sydd wedi perfformio ochr yn ochr â sêr enwog fel Ramin Karimloo, John Owen Jones, a Daniel Brocklebank. Ar ôl dwy flynedd fel prif leisydd Viking Cruises, mae Aaron wrth ei fodd i fod yn ôl ar y tir mewn pryd ar gyfer tymor Panto.

Alicia Lynn

Gyda mwy nag 20 mlynedd o hyfforddiant dawns a BA mewn Theatr Gerddorol o Goleg Bird, mae Alicia yn dod â chyfoeth o brofiad i'r llwyfan. Mae hi eisoes wedi plesio cynulleidfaoedd Theatr Glan yr Afon gyda'i pherfformiadau yn Cinderella a Robin Hood ac mae'n edrych ymlaen at ddychwelyd ar gyfer Beauty and the Beast yn 2023.

Chloe Bramall

Hefyd yn dychwelyd am flwyddyn arall mae Chloe Bramall, a berfformiodd yng Nglan yr Afon yn Robin Hood. Yn syth o haf yn gweithio gyda Netflix i hyrwyddo "The Witcher," mae Chloe yn awyddus i ledaenu ysbryd a llawenydd yr ŵyl yng Nglan yr Afon.

Ella Carolan

Wedi graddio yn Urdang, Llundain, yn 2023, mae sgiliau dawnsio cystadleuol Ella wedi ennill cydnabyddiaeth iddi ledled y wlad, gan gynnwys ymddangosiad ar Britain's Got Talent. Mae ei pherfformiad diweddar yn The Greatest Night of the Jazz Age yn Llundain yn arddangos ei dawn ryfeddol. Mae Ella yn llawn cyffro i ymddangos yn ei Phanto cyntaf yng Nghasnewydd yn Theatr Glan yr Afon a threulio'r Nadolig yng Nghymru.

Lewis Pittam

Wedi graddio o’r Performance Preparation Academy yn 2020, mae Lewis yn dod ag amrywiaeth o brofiad theatrig i'w rôl yn Beauty and the Beast. Mae ei gyflawniadau'n cynnwys Spamalot, Chess, A Chorus Line a rolau proffesiynol yn Goodnight Mr Tom, The Wiz, Peter Pan ac Aladdin. Mae ei frwdfrydedd am y celfyddydau yn sicr o ddisgleirio ar lwyfan.

Samuel Ashall

Mae gan Samuel, a raddiodd yn 2020 o Academi Mountview, amrywiaeth o gyflawniadau trawiadol, gan gynnwys perfformiadau yn Gypsy, Cinderella a The Knight of Music. Mae ei bresenoldeb ar y llwyfan yn ychwanegu haen ychwanegol o hud i'r cynhyrchiad.

"Rydym wrth ein bodd i gael cast ensemble mor dalentog ac ymroddedig ar gyfer 'Beauty and the Beast' eleni," meddai Jamie Anderson, Rheolwr Datblygu Creadigol Theatr Glan yr Afon. "Heb os, bydd eu profiad cyfunol a'u hangerdd dros y celfyddydau perfformio yn creu profiad cofiadwy a chalonogol ar gyfer ein cynulleidfaoedd y Nadolig hwn."

Dymuna Theatr Glan yr Afon ddiolch i'r holl bobl ifanc a fynychodd glyweliadau nôl ym mis Medi ar gyfer cast Young Company. Cawsant eu synnu gan fwy na 70 o berfformwyr ifanc. Dymuna Tîm Glan yr Afon longyfarch Maria, Zunaisha, Josh, Anaiya, Ruby, Isabella, Maia, Nimeesha, Lionardo, Harper, Neve, Brooke, Mollie, Isla, Lucy, Elijah, Katie a Leila, am fod yn llwyddiannus yn y clyweliadau eleni. 

Dymuna Tîm Glan yr Afon longyfarch Maria, Zunaisha, Josh, Anaiya, Ruby, Isabella, Maia, Nimeesha, Lionardo, Harper, Neve, Brooke, Mollie, Isla, Lucy, Elijah, Katie a Leila, am fod yn llwyddiannus yn y clyweliadau eleni. 

Bydd Beauty and the Beast yn agor yng Nglan yr Afon ar 29 Tachwedd a bydd ar y llwyfan tan 6 Ionawr. Archebwch eich tocynnau nawr i gamu i fyd o gyfaredd a rhyfeddod. Gellir prynu tocynnau ar gyfer Beauty and the Beast yn Theatr Glan yr Afon ar wefan Glan yr Afon neu drwy ffonio 01633 656757.